Mae’r gyfres Cymry ar Gynfas yn ôl unaith eto i ddangos wynebau mwyaf cyfarwydd o Gymru mewn ffordd hollol wahanol.
Mae Cymry ar Gynfas yn dod a chwe eicon a chwe artist Cymraeg at ei gilydd i greu chwe portread sy’n adlewyrchu personoliaeth y wynebau cyfarwydd a dull unigryw pob artist.
Ac yn ogystal â’r portread sy’n cael ei ddatgelu ar ddiwedd y rhaglen, mae pob rhaglen yn y gyfres yn cynnig portread gonest ag agored o’r eicon a’r artist wrth iddynt sôn am eu profiadau a’u teimladau o beintio a chael eu peintio.
Yn y rhaglen gyntaf o’r gyfres newydd sy’n dechrau ar S4C ar nos Fercher y 14eg o Ebrill am 9.00, y ddarlledwraig amryddawn Beti George yw’r eicon Cymraeg sy’n cael ei dehongli gan yr artist Catrin Williams, sy’n wreiddiol o Gefnddwysam ger Y Bala ond yn byw ym Mhwllheli ers y 1990au.
Mae Catrin yn adnabyddus iawn fel arlunydd proffesiynol a llwyddiannus ers 30 mlynedd ac yn cynnal ei hun gyda gweithdai, arddangosfeydd rhyngwladol a chomisiynnau. Mae ei gwaith hi’n aml iawn yn lliwgar, yn aml-gyfrwng ac yn gallu bod yn rhymberth o ffrog i glogyn i furluniau anferth ar waliau.
Roedd Catrin yn falch iawn mai peintio dynes mor ysbrydoledig a Beti George oedd ei thasg hi:
Oni isio yn bendant portreadu dynes, a dynes gref.
Dwi’n meddwl fod o’n bwysig bod y genhedlaeth newydd hefyd yn gweld pa mor wych ydi rhywun fel Beti George, sydd yn gweithio fel Newyddiadurwaraig ac yn gohebu yn ei hoes a’i hamser. Dwi jest yn meddwl bod o mor bwysig ein bod ni’n datblygu ar hynny.”
Fel rhywun sy’n hoffi cael sialens newydd, roedd Catrin yn falch iawn o dderbyn yr her yma ac yn cynnig cyfle iddi fynd yn ôl i wneud portreadau.
“Dwi ddim yn meddwl fod neb yn hapus â’r wyneb sydd gyda nhw, dwi ddim yn credu eu bod nhw ta beth!” meddai Beti. Ond gan ei bod hi wrth ei bodd gyda lluniau lliwgar Catrin a’r bywyd a’r egni sydd ynddyn nhw, “wel, pam lai?” oedd yr ymateb i gymryd rhan yn y gyfres.
Mae gwaith Catrin yn adnabyddus am y lliwiau mae hi’n ei ddefnyddio, ac mae’r diddordeb a’r atynfa yma at liwiau wedi bod ynddi ers iddi fod yn ferch fach:
“Wnaeth y diddordeb ddechrau mewn lliw wrth agor y cyrtens yn y bore pan oni’n chwech oed ar fferm Llwyniolyn a gweld lliwiau mynyddoedd y Berwyn o ’mlaen i. Lliwiau bendigedig o’r pinc i’r oren i’r glas.”
A gan fod Beti wrth ei bodd â lliwiau – y mwyaf llachar y gorau yn ôl Beti! – mae hwn yn swnio fel y bartneriaeth berffaith.
Wrth gerdded o gwmpas adeiladau Prifysgol Caerdydd a Chanolfan y Mileniwm, sy’n bwysig iawn ym mywyd Beti, roedd dod i’w nabod hi’n allweddol wrth ysbrydoli Catrin:
“Ar ol ei chyfarfod hi, roedd yr holl syniadau yma – lle aeth hi i’r coleg, beth oedd ei hanes hi, pa gerddoriaeth mae’n hoffi – dwi’n meddwl fod hynny wedyn wedi bwydo fewn i’r isymwybod a jest bod yn ei chwmni hi hefyd.”
Wrth greu’r portread, penderfynodd Catrin ddewis amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau o’i gweithdy sydd ar dop ei thŷ ym Mhwllheli:
Dwi’n meddwl bod y portread yma yn bendant yn fy steil haniaethol, aml-gyfrwng, bonkers i a dwi jest yn gobeithio bydd Beti’n hoff iawn o hynny. Felly, beth oedd ymateb Beti i’w phortread? Ydi Catrin wedi cael ei hysbrydoli i wneud mwy o bortreadau yn y dyfodol? Bydd rhaid gwylio’r gyfres newydd o Cymry ar Gynfas sy’n dechrau nos Fercher, 14 Ebrill am 9.00 am yr atebion ac i weld y portread gorffenedig.
Yn ystod y gyfres hon bydd y naturiaethwr Iolo Williams yn cael ei beintio gan yr artist Meinir Matthias, y cerddor a phrif leisydd y band Candelas Osian Huw Williams gan Christine Mills, yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd gan Anthony Evans, y gantores Kizzy Crawford gan Seren Morgan Jones a’r canwr a’r ymgyrchydd dylanwadol Dafydd Iwan gan Wil Rowlands.
Cymry ar Gynfas
Nos Fercher, 14 Ebrill, 9.00
Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon