Dechreuodd Catrin Williams arddangos ei gweithiau celf ar ddiwedd yr 1980au ac ers hynny mae ei gwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe'i magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond mae wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru - yw un o'r themau cryfaf yng ngwaith Catrin Williams; mae'r ddresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi gweu drwy'i gilydd ac yn mynnu sylw. Dros amser datblygodd y themau cartrefol a theuluol i gynnwys elfennau o'r symbolau twristaidd o Gymru fel y llieiniau golchi llestri ystrydebol. Mae atsain o'i thirluniau cynnar o fynyddoedd y Berwyn yn amlwg yn ei darnau diweddaraf ond arfordir a thraethau penrhyn Llŷn yw'r ysbrydoliaeth bellach.
Mae Catrin wedi cynnal gweithdai ar gyfer plant ysgol o bob oed drwy Gymru yn ogystal ag ar brojectau penodol yn Swydd Awythig, Lloegr ac yn Glasgow, Yr Alban. Cynhaliwyd gweithai ar gyfer grwpiau anghenion arbennig - rhai fel sesiynnau wythnosol mewn canolfannau pwrpasol ac eraill fel projectau artist-preswyl, roedd un project cofiadwy ar gyfer Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Bwriad y wefan yw rhoi cyflwyniad i waith Catrin Williams - cewch edrych ar luniau o'i gwaith ond mae cyfle hefyd i bori drwy'r gwybodaeth a'r erthyglau er mwyn ymchwilio'n ddyfnach i'w chefndir a'i gwaith.
Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon