Datganiad

Thema amlwg yng ngwaith Catrin Williams yw Cymreictod - neu yn hytrach ei phrofiad o fyw yng Nghymru. Mae delweddau o’i chefndir a’i magwraeth ym Meirionnydd yn mynnu eu ffordd i’r gwaith - y cartref a’r fferm; y dathlu a’r dillad; y cerddoriaeth a’r diwylliant Cymraeg; yr arferion teuluol a’r wynebau cyfarwydd.

Ers symud at y môr i Bwllheli mae ei gwaith wedi chwarae hefo delweddau’r llieiniau sychu llestri twristaidd o Gymru yn ogystal ag ymateb i’r diwydiannau morwrol lleol. Mae’r cychod a’u hwyliau, y porthladdoedd a’r tirlun sy’n ddiethr i’r ferch o fferm fynydd Llwyniolyn yn elfennau pwysig yn ei gwaith diweddar.

Dangoswyd gwaith Catrin yn helaeth ar hyd a lled Cymru, mewn orielau yn yr Alban, Lloegr ac Iwerddon - ac mae ei chyfres Ffrogiau Cerdd Dant newydd gael eu gweld mewn arddangosfa hynod lwyddiannus, Prints of Wales, a gynhaliwyd yn y Belger Arts Center, Kansas City, U.D.A. Yn ystod y flwyddyn diwethaf mae galw mawr wedi bod am ei gwaith gan gasglwyr preifat ac mae’r ymateb i’r darnau newydd wedi bod yn galonogol iawn. Mae ei gwaith yn barod mewn casgliadau preifat ym mhob rhan o Ynysoedd Prydain, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Japan, Canada ac America - ac yng nghasgliadau cyhoeddus Amgueddfa Gymreig o Gelfyddyd Fodern Y Tabernacl, Cyngor Sir Gwynedd, Oriel Ceredigion Aberystwyth ac Oriel Casnewydd Gwent.

Derbyniodd Catrin wahoddiad i gymeryd rhan mewn rhaglen arbennig Nadoligaidd o’r gyfres deledu Byd o Liw - fe’i darlledwyd yn ystod Rhagfyr 2007. Dyma’r ail dro iddi gyfrannu at y gyfres - roedd yn ymateb yn gelfyddydol i bosteri Harry Riley o Aberystwyth ar ei hymddangosiad cyntaf. Yn 2002 cynhyrchwyd rhaglen Catrin Williams - Portread gan Ffilmiau’r Bont ac fe roddodd y rhaglen gyfle iddi edrych yn ôl o’r newydd ar ei chynefin a’i dylanwadau cynnar. Dros y ddegawd diwethaf darlledwyd nifer o eitemau eraill am Catrin a’i gwaith ar amryw o sianelau teledu - S4C, BBC1 Cymru, ITV Cymru drwy Gymru; BBC2 drwy Brydain; a sianel TG4 yn yr Iwerddon.

Dros ugain mlynedd ers graddio o’r Coleg Celf yn Nghaerdydd, mae Catrin yn dal i roi ei hegni i baentio a darlunio’i byd. Mae’n datblygu cyfresi o waith unigryw, yn eu harddangos yn gyson ac yn credu’n gryf mewn annog a chefnogi artistiaid eraill - o oed y dosbarthiadau meithrin ymlaen ac o bob cornel o’r gymdeithas. Yn aml iawn daw ar draws myfyrwyr colegau celf sy’n astudio’i gwaith - myfyrwyr sy’n awyddus i drafod ei chrefft ac yn awyddus i ennyn ei brwdfrydedd.

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon