Oriel
Cliciwch ar y lluniau bach ar y dde i'w gweld yn fwy ac am fanylion am y gwaith yng ngeiriau Catrin.
Llawer mwy o luniau i'w gweld wrth ddewis un o'r adrannau hyn -
Golygfeydd | Bywyd llonydd | Teithiau | Gweithdai | Cerdd dant | Nod clust | Cefnddwysarn | Gerddi | Y môr | Cychod | Pethau brau | Bysedd lliw | Tir | Celf Eden | Cyfres John Cale | Dylanwad
Solas
Yn y Co-op yn Solas oeddwn i'n siopa tra ar Gogledd Uist - ac yno hefyd mae traeth anhygoel Traigh Iar. Paentiad olew - haf 2009.
Loch nam madadh
Pentref a phorthladd ar ynys Gogledd Uist lle bum yn treulio 5 wythnos yn ystod haf 2009 - un o ddarluniau cyntaf Project Tir mewn inc a phastel.
Arenig
Ail-ymweld â rhai o'r golygfeydd o'm mhlentyndod wrth grwydro Meirionnydd yn y car hefo dad yn ystod gwanwyn a haf 2009. Gweithio mewn paent eto.
Yr Aran o Ty Cerrig
Gwanwyn a haf 2009 . . . golygfeydd Meirionnydd cyn i'r Eisteddfod gyrraedd.
Gerddi'r Plas
Darlun a wnaed yn ystod preswyliad Celf Eden ym Mhlas Tan-y-Bwlch - wythnos weithgar a hwyliog, Mehefin 2009.
Ffrwythau amser
Bywyd llonydd o 2009 - blodau, llysiau a llestri'r gegin - cofio prysurdeb mam yn ei chegin.
Hermeto
Darn sy'n ymateb drwy baent i gerddoriaeth Hermeto Pascoal yn cael ei chwarae gan Huw Warren - project Bysedd lliw 2009.
Harbwr glas
Golwg arall - ond mewn paent tro ma - o fae Aberdaron, 2008.
Cei Edrica
Tai, cychod a'r arfodir o 2008. Mae hwn yn deillio o ddarllen ac astudio gwaith Edrica Huws - arlunydd diethr iawn i mi tan gweld arddangosfa o'i gwaith yng Nghaergybi 2007.
Grug ar y mynydd
Dwi wedi creu amryw o ddarnau o gyfresi o frasluniau o ardal Llithfaen - mae pob un yn wahanol ac efallai yn cyfleu fy nheimladau tra mod i'n gweithio ar y darnau penodol, 2008.
At y chwarel
Inc, pasteli a gwaith gwnio - darn o waith o 2008 yn dilyn crwydro a darlunio golygfeydd ac adeiladau ardal Blaenau Ffestiniog.
Aberdaron
Golygfa arfordir Penrhyn Llyn - inc, pasteli a gwaith gwnio - 2007.
Parti Derfel
Paent olew a phasteli ar bapur. Dylanwad y cartref a'r te - bywyd llonydd o 2007.
Ar y cei
Gwnaed y darnau Ar y cei gwreiddiol yn 2002 - cyn y cychod bach - ond mae hwn yn ddarn o 2007. Monoprint ar ddefnydd gydag inc a darnau defnydd wedi eu gwnio.
Porthdinllaen
Paent a phasteli olew ar bapur 2006. Un o'r gweithiau golygfeydd arfordirol cyntaf i mi ei wneud ac fel paentiadau ddechreuodd y gyfres.
Ffrogiau cerdd dant
Mi fûm i'n creu darnau cerdd dant ers 2003, ond gwnaed rhan fwyaf o'r gwaith ar y ffrogiau yn ystod preswyliad yn Oriel Mostyn, 2005 - dangoswyd rhain hefyd yn Kansas, 2007.
Darn o dir
Inc a gwaith gwnio - ond hefyd y tro cyntaf i mi arbrofi hefo defnyddio llythrennau argraffu - y tir dan sylw ydi tir fferm Llwyniolyn ac mae enwau'r caeau yn ran bwysig o'r gwaith.
Steddfod y cychod
Rhan o broject Syniad da - cydweithio hefo JKA Sailmakers - mi wnes i orffen hwyl maint llawn ar gyfer cwch hwylio Topper ond rwyf wedi gwneud dros 50 o'r cychod bach hyn.
Cân y pys
Paent olew a phasteli ar gerdyn - collage wedi ei wnio. Cyfres o waith abstract o 2005.
Dresel binc
Inc a gwaith gwnio - un o'r darnau gwnio mawr cyntaf i mi ei orffen a'i fframio. Dylanwad y llestri a'r dresel unwaith eto.
Yfed te ym Mudapest
Olew ar gynfas - 2000. Enghraifft arall o ddylanwad teithio - yn dilyn trip i Budapest fel darlithydd yng ngofal criw o fyfyrwyr celf. Un o'r darnau o arddangosfeydd Hel wyau.
Nodau clust
Fe'u galwyd yn darianau Affricanaidd gan rai ac yn 'surf-boards' gan eraill - ond dyma'r nodau clust mawr arddangoswyd yn sioeau Perthyn 1998.
Nodau clust
Manylyn - monoprint ac inc ar bapur wedi eu gosod ar baneli wedi eu siapio.
Pethau brau
Project Gwreiddiau gan Cywaith Cymru - Bala 1997. Roedd y project yn cynnwys gweithdai i blant baentio baneri - a dyma'r orymdaith yn ystod wythnos y Steddfod.
Pethau brau
Project Gwreiddiau gan Cywaith Cymru - Bala 1997. Mewnosodiad yn Heulwen - atgofion o blentyndod - wynebau cyfarwydd ar blatiau - ac ymddangosiad cyntaf y nodau clust.
Te cymreig
Mae'r Te cymreig wedi bod yn elfen bwysig o'm gwaith - perfformiadau Bara Brith 1995, darnau bywyd-llonydd 1997, picnics Moel Crynierth 1998 a'r gwaith mwy diweddar am bartion plant.
Glynllifon
Roeddwn yn gweithio mewn stiwdio ym Mharc Glynllifon ar ddechrau'r 1990'au - dyma baentiad o 1994 - roedd y gerddi yn deffro yn y gwanwyn ac ar roeddwn innau yn fam am y tro cyntaf.
America
Gwaith ar bapur yn defnyddio paent olew, pasteli, paent 'spray-can' a collage. Cyfres o 1991 yn dilyn trip i Efrog Newydd, Philadelphia a Washington.
Cefnddwysarn
Yr olygfa o fuarth Llwyniolyn tuag at Cefnddwysarn - un o'r paentiadau mawr olew ar gynfas oedd yn rhan o'm sioe gradd yng Nghaerdydd ym 1989.