Articles

Introduction to the work of Catrin Williams by Iwan Bala as well as, below, a poetic response from Menna Baines to the sheep ear-mark artworks.

 

Darllen Delweddau

Cyflwyniad i waith Catrin Williams gan Iwan Bala

Mae’n angenrheidiol i artistiaid o gefn gwlad adael eu cynefin i fynd i gael addysg ac yn y gorffennol, aros i ffwrdd - yn llythrennol ac yn ffigurol - y byddent wedi cwblhau eu cwrs. Ond erbyn heddiw mae mwy a mwy yn dychwelyd, un ai yn gorfforol felly, neu yn feddyliol. O ganlyniad mae llawer mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o berthynas yr artist a mangre neu fro arbennig. Mae artistiaid yn troi oddi wrth iaith undonog y cyfnod modern diweddar lle’r oedd pob artist yn efelychu un arwyneb ac un syniadaeth er mwyn ymateb i hynodrwydd arbennig eu milltir sgwar. Mae Catrin Williams yn un o’r fath ac yn dilyn esiampl Mary Lloyd Jones ac Eleri Mills, wedi dychwelyd, os nad i gartref ei theulu, i ardal Gymreig sy’n ddigon agos iddi fedru galw’n ôl yn aml.

Ond y ‘galw’n ôl’ meddyliol sydd yn bwysig yng ngwaith Catrin Williams. Nid artist tirweddol mohoni hi, ond artist y cof. Mae cof o’i phlentyndod yn ardal Cefnddwysarn ger y Bala yn trwytho ei gwaith hyd heddiw. Cof ydyw o fywyd cymunedol clos, o feirdd gwlad, o ganu a pherfformio ar Iwyfan eisteddfod y Sarnau, o ddiwrnodau heulog haf lle byddai pobol yr ardal yn ymgynnull a’i gilydd i fwyta yn yr awyr agored, neu’r gaeafau lle byddent yn ymhel i siarad tan oriau man y bore o flaen y ddresel ddisglair. Diwylliant ‘y Pethe’, yng ngeiriau Llwyd o’r Bryn, un o enwogion yr ardal.

Nid yw’n syndod felly fod Catrin Williams yn canolbwyntio ar rai elfennau sydd wedi aros yn y cof ac yn ceisio eu trosglwyddo i iaith weledol, symbolaidd. Mae hi wedi gweithio efo delwedd y Te Cymreig, gan gyfuno peintiadau a pherfformiadau. Mae’r ddresel yn ymddangos yn aml ymysg y bratiaith o bapur Iliw y mae’n ei ludo i mewn i’r llun, weithiau efo darnau o hen ffotograffau o’r teulu a’r gymuned, neu o ysgol fach y Llan. Bron iawn y medrwn weld y broses o gofio yn digwydd yn y lluniau, darn o hwn a darn arall (anghyflawn efallai) o’r llall.

Mae dylanwad y perfformiadol i’w weld yn y ffordd y bydd Catrin Williams yn ymgymryd â gweithdai efo plant, yn gwneud baneri i orymdeithio, neu’n creumewnosodiad fel y gwnaeth yn Eisteddfod y Bala yn 1997. Mae hi hefyd wedi creu gwaith sydd yn seiliedig ar gerddoriaeth y Cymro arbrofol John Cale, gan berfformio rhai o’i ganeuon ei hunan, a hynny yng Nghapel Tegid, y Bala o bobman.

Mewn datblygiad diweddar, Pethau Brau, mae delwedd newydd yn ymddangos. Fe welwn ffurfiau yn crogi o’r nenfwd neu’n gorwedd ar y wal; ffurfiau fyddai’n ein hatgoffa efallai o gychod, neu o farcudau Sieniaidd, neu darianau addurnedig y Zulu. Ond mae’r teitlau yn anghyfarwydd. O ble y daw ‘fforch yn y glust dde’, ‘cnwyad yn y glust dde’ a ‘bachiad cam’…? Dim ond ffermwr o ucheldiroedd Cymru fyddai’n gyfarwydd a thermau o’r fath. Enwau ydynt ar nodau dust defaid. Mae gan bob fferm ei nod wahanol a thrwy eu torri i glust y ddafad, maent yn medru adnabod eu defaid ar y mynydd a’u didoli oddi wrth ddefaid y ffermydd cyfagos. Mae’r nodau hyn yn mynd yn ôl genedlaethau, ac efallai erbyn hyn, yn mynd yn rhan o’r gorffennol coll. Mae symbolaeth ynghlwm wrth eu hailddyfeisiad fel elfennau celfyddydol yng ngwaith cyfoes Catrin Williams.

 

Ymateb gan Menna Baines i weithiau Nodau Clust

Croeso cynnes

Croeso i’r amgueddfa,
a gwelwch yma, wedi’u corlannu’n dwt, ddiadelloedd.
Clywch yr iaith ar waith
yn enwau’r nodau dust,
y ‘fforch’, y ‘toriad’, y ‘bwlch’ a’r ‘bachiad cam’.
Rhowch eiliad wedyn i ddychmygu’r mwg
yn troelli o simneiau yma ac acw
uwch aelwydydd diddos;
ar daen o’ch blaen mae oes gartrefol, syml
nad yw mwy.


Ac yna ewch adre,
heibio’r curadur cysglyd,
a dyna chi, -
byw mynydd mewn pum munud
dan do, trwy wydr.
Haws, hefyd, na dilyn llwybrau crwydrol
sy’n dringo ac yn croesi ffiniau anweladwy
cyn diflannu i’r niwl.

Copyright © Catrin Williams
Design - Almon