Un o bedwar o blant a fagwyd ar fferm fynyddig yng Nghefnddwysarn ym mhlwyf Penllyn yw Catrin Williams. Er bod pob un o’r pedwar wedi astudio Celf Safon Uwch, Catrin yn unig a aeth ymlaen i goleg celf – Coleg Celf Caerdydd. Erbyn heddiw, hi yw un o artistiaid cyfoes amlycaf a mwyaf cynhyrchiol Cymru.
Yn ei harddangosfa ddiweddaraf yn oriel Celf Canol Cymru yng Nghaersŵs, ceir cyfle i weld yn agos at gant o weithiau amrywiol ganddi. Cefais olwg arnynt pan es draw i’w chartref ym Mhwllheli i’w holi ychydig wythnsau cyn yr agoriad.
Y gwahoddiad i arddangos yng Nghaersŵs, mewn oriel sy’n enfawr, oedd yr ysgogiad, meddai Catrin, ‘i greu rhagor o weithiau newydd, a hyd yn oed ailbobi ambell un!’
Copyright © Catrin Williams
Design - Almon