Archive

Golwg

20 February 2014 - by Non Tudur

 

Artist y diwylliant Cymraeg

Does fawr o drafod uchel-ael am werthoedd ac estheteg celf wrth siarad â’r artist Catrin Williams. Bydd pob llinyn o sgwrs yn crwydro’n ôl at ffrindiau a theulu, ei chysylltiadau a’i chymdogion ym mro ei mebyd yng Nghefnddwysarn ger y Bala ac ym Mhwllheli, lle mae wedi byw gyda’i gŵr ers 18 mlynedd.

Ac mae’r Cymreictod yma yn greiddiol i’w gwaith – yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy tan y Sul.

Er nad oes pobol yn ei darluniau, mae hoel diwylliant y gymdeithas wledig Gymraeg yn drwm arnyn nhw.

Ei ffefrynnau o blith y darluniau newydd yw’r rhai o’r Arenig neu o Gefnddwysarn.

“Mewn ffordd, dw i’n teithio lot efo gweithdai ac yn aml iawn rydach chi’n dod i adnabod ryw ardal neu licio rywle ac wedyn mae’n dylanwadu arnoch chi,” meddai.

“Rhaid i mi nabod y lle neu licio pobol cyn i mi wneud dim byd. O, rhaid. Dw i wedi byw mewn tirwedd sy’n cael ei weithio ac yn cael ei ffermio, ac yn ardal Cefnddwysarn mae gennych chi’r diwylliant. Er nad ydw i’n rhoi pobol yn fy ngwaith, dw i’n meddwl bod rhaid i chi licio’r ardal.”

Mae rhai wedi awgrymu bod y gwaith lliwgar a phrysur yn adlewyrchu cymeriad yr artist. Mae’n ceisio gweithio “bob awr o’r dydd”, sy’n golygu nad yw hi’n gallu bod mor weithgar yn gymdeithasol ag yr hoffai.

“Pe taswn i’n byw yn y Sarnau efallai fyse gen i ddim amser i wneud fy nghelf,” meddai. “Dw i ddim yn gwneud pethau yn gymdeithasol o ran chwarae organ yn y capel ac ati, ac yn teimlo’n euog iawn. Does gen i ddim amser i ganu mewn côr.”

 

Lliwiau’n tawelu

Fe gollodd Catrin Williams ei mam dros y Pasg y llynedd ac mae hynny wedi gadael ei ô1 ar y gwaith, gyda lliwiau ambell dirlun yn dawelach na’r lleill, fel ‘Yr Aran o Crynierth’, sef enw hen ffermdy teulu ei mam.

“Fydda’ i’n sgetsio mewn du a gwyn, ac yn y gweithdy y mae’r lliwiau yn dod,” meddai. “Mae’r lliwiau’n wahanol y tro yma, efallai oherwydd colli Mam.”

A dylanwad yr artist Josef Herman yw’r lliwiau llwyd a phiws, meddai (mi fuodd hi’n artist preswyl i Sefydliad Josef Herman yn Ystradgynlais yn 2011). Ac fe welir dylanwad ei chyn-ddarlithydd celf Peter Prendergast ar ei gwaith o hyd i raddau, fel y mae dylanwad yr artist Matisse i’w weld ar ambell lun fel ‘Dawns y Tebot’.

“Dw i’n cau cyfyngu fy hun,” meddai Catrin Williams.

 

Cofion cynnes i Innes

Y peth nesa’ sydd gan Catrin Williams ar y gweill yw tri darlun i Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd yn ymateb i waith James Dickson-Innes (1887-1914) a fu’n paentio ar yr Arenig. Fe fydd y sioe yn cyd-fynd ag arddangosfa fawr yr Amgueddfa Genedlaethol, ‘Tirweddau gan JD Innes’, rhwng Ebrill a Gorffennaf.

Yn y coleg y daeth Catrin Williams i wybod am yr artist hynod yma.

“Mi es i i’r Amgueddfa Genedlaethol pan o’n i yng Nghaerdydd a jest dychryn – ‘waw, mae rhywun wedi bod yn neud lluniau yn ardal Bala ac yn fy lliwiau i’,” meddai.

Copyright © Catrin Williams
Design - Almon