Archive

An article from Yr Herald Cymraeg - Welsh weekly newspaper - about Catrin’s solo Cynefin/Homeland exhibition which was on display at Oriel Tegfryn Gallery, Porthaethwy/Menai Bridge during May and June 2008.

 

Yr Herald Cymraeg

14 May 2008 by Tudur Huws Jones

 

Merch y mynydd yn mentro tua’r môr

Gweithio er mwyn byw y mae’r rhan fwyaf ohonom, ond mae ambell unigolyn prin yn byw er mwyn eu gwaith. Mae’r arlunydd Catrin Williams yn un o’r rheiny...

Mae sawl peth yn dod i’r amlwg wrth sgwrsio â’r arlunydd Catrin Williams - ei chariad at Gymru, at ein diwylliant, at ei chynefin, ac at ei theulu i enwi dim ond rhai. A’r mwyaf amlwg ohonynt i gyd efallai - ei chariad angerddol at ei gwaith.

Mae holi Catrin os ydi hi’n mwynhau paentio fel gofyn i aderyn os yw’n hoffi hedfan. Mae ei dawn mor naturiol a hynny, ac mae’n deg dweud bod Catrin yn byw i weithio.

Yn wir, mae’n cyfaddef bod ei gwaith yn dipyn o obsesiwn ganddi.

“Dwi’n mynd yn flin os nad ydw i’n gallu gweithio - dwi ei angen o i’m hatgyfnerthu fi,” meddai.

Mae’n mynd allan i ysgolion yn rheolaidd i wneud gweithdai celf ac i weithio ar brosiectau mawr gyda’r plant. Ond hyd yn oed wedyn, ar ôl diwrnod llawn o waith, mae’n gorfod gweithio wedyn ar ô1 dod adref.

Ddydd Sul (Mai 18) bydd cyfle i weld ffrwyth diweddara’r obsesiwn hwn pan fydd arddangosfa o’i gwaith yn agor yn Oriel Tegfryn, Porthaethwy.

Syr Kyffin Williams ddywedodd mai Catrin Williams yw’r artist abstract gorau yng Nghymru.

Ond mae sawl elfen ac arddull i’w weld yn ei gwaith mewn gwirionedd.

Er ei bod wedi byw ym Mhwllheli ers 1996, magwyd Catrin ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, yr ieuengaf o bedwar o blant - pob un ohonynt a thalent.

Roedd y tri hyn wedi gwneud Lefel A yn y pwnc, ond bu ond y dim i Catrin fynd ar drywydd gwahanol.

“Ro’n i isio gwneud hanes,” meddai “ond mi ddywedodd prifathro Ysgol y Berwyn wrtha’i “na Catrin, mi fasa’n well i chi wneud celf achos bod y tri arall wedi gwneud Lefel A Celf. A dyna fu.”

Ar ôl gadael yr ysgol, bu bron iddi ddewis cerddoriaeth yn lle celf, ond er fod canu a cherddoriaeth yn dal yn bwysig iawn iddi, celf enillodd y frwydr fach - honno hefyd. Ac fel mae’n digwydd, yn y diwedd hi oedd yr unig un o’r pedwar plentyn i fynd ymlaen i goleg celf i astudio’r pwnc ymhellach.

I rhyw raddau mae’r frwydr honno’n ail- adrodd ei hun yng nghartref Catrin ar hyn o bryd, lle mae ei mab, Elis, yn gorfod dewis ei bynciau ar gyfer yr arholiadau TGAU. “Mae o’n deud nad ydi o isio gwneud celf,” medd Catrin. “Mae Elis a Luned [ei chwaer] wedi gorfod mynd rownd orielau celf ers pan oeddan nhw yn eu clytiau. Maen nhw wedi cael eu boddi ynddo fo!”

Cynefin yw enw ei harddangosfa newydd, thema a gododd yn gyntaf yn ei gwaith yn ystod dyddiau coleg. Ond roedd ei chyd-fyfyrwyr yng Nghaerdydd yn meddwl mai o dramor yr oedd hi’n dod ar y cychwyn.

“Roeddan nhw’n meddwl mai o Ddenmarc yr oeddwn i’n dod!” meddai.

“Roeddan nhw’n fy ngalw i’n “that girl from the mountains” am dipyn hefyd.

Fe greodd casgliad o luniau o wartheg yr oedd Catrin wedi eu gwneud yn y beudy adref, dipyn o argraff ar ei chyd-fyfyrwyr hefyd, yn enwedig un mawr o ben-ôl buwch.

“Doeddan nhw ddim wedi gweld dim byd tebyg erioed,” meddai dan chwerthin.

Mae Cymreicrod a’r profiad o fyw yn Nghymru yn thema gysonyn ei gwaith, ac yn y goffennol mae hi wedi defnyddio’r ddresel Gymreig, dillad, wynebau ac arferion y teulu i ddynodi hyn.

Yn un arddangosfa rai blynyddoedd yn ôl, defnyddiodd nodau clust defaid i ddynodi’r ymdeimlad o berthyn sy’n gysylltiedig â chynefin.

Golygfeydd yw’r rhan fwyaf o’r gweithiau - yn fynyddoedd a phentrefi ucheldiroedd Meirionnydd, a phorthladdoedd bychan arfordir Mon a Llyn. Cynefin y ffermwr, y chwarelwr, a’r pysgotwr.

Ond mae’n pwysleisio nad rhamantu’r peth y mae hi.

“Mae’n od bo fi wedi mynd yn ôl at dirluniau,” medd Catrin.

“Mae hi wedi cymryd blynyddoedd i mi wneud hynny, ond yn amlwg ti’n gorfod byw mewn ardal er mwyn iddo ddechrau ymdreiddio i mewn i dy waith di. Dydi ardal Pwllheli ddim yn ardal gynhenid i mi - Bala, Penllyn a’r mynyddoedd a’r tirlun yna dwi wedi arfer efo fo. Ond dwi wedi byw ym Mhwllheli bron iawn yn fwy na unlle arall rwan, dwi wedi priodi rywun o Bwllheli, ac mae’r plant wedi cael eu magu yma.

“Dwi’n mwynhau gweld y ffordd y mae pobl yn byw ac yn defnyddio ardal, yn enwedig pan ti’n mynd i rywle fel Aberdaron lle mae’n amlwg bod y môr mor bwysig.

“Dwi ddim yn rhamantu’r peth - mae’n amhosib prynu ty yn Aberdaron bron, a faswn i byth yn gallu ffermio - mae’n fywyd rhy galed.”

Eglurodd Catrin fymryn ar y broses o grew un o’i phaentiadau trawiadol.

“Dwi’n paentio’n lliwgar ofnadwy. Dwi’n mynd allan i fraslunio achos, yn bersonol, dwi ddim yn gallu gweithio o ffotograffau.

“Fel arfer dwi’n braslunio yn ddu a gwyn - pensel, siarcol neu inc, felly mae’n llyfr i’n ddu a gwyn.

“Ond pan dwi’n cyrraedd yn ôl i’r stiwdio dwi’n cael hwyl. Yr adeg honno mae’r siapiau a’r cysgod a ballu yn cael eu datblygu, a wedyn dwi’n rhoi’r lliw i mewn - a dyna pryd mae fy mhersonoliaeth i yn dod i mewn iddo fo.

“Mi ddywedodd rhywun o’r Alban wrtha’i fod y ffordd dwi’n defnyddio lliwiau yn rhywbeth Celtaidd. Mae’n wir am arlunwyr yr Alban, sy’n defnyddio lliwiau llachar ofnadwy.”

Mae rhoi 70 o luniau at ei gilydd ar gyfer arddangosfa fel Cynefin yn waith caled, ond yn amlwg yn rhywbeth sy’n rhoi llawer o fwynhad i Catrin.

“Dwi’n gweithio bob dydd beth bynnag - mi faswn i ar goll os na faswn i’n cael gwneud hynny. Does gen i ddim llawer o fywyd cymdeithasol - dwi’n tueddu i weithio drwy’r adeg. Hyd yn oed pan dwi’n gwneud gweithdai mewn ysgolion - dwi’n dod adref, cael swper, ac wedyn dwi’n dechrau gweithio eto.”

Copyright © Catrin Williams
Design - Almon