Archive

An article from Golwg - Welsh weekly magazine - about Catrin’s solo Cynefin/Homeland exhibition which was on display at Oriel Tegfryn Gallery, Porthaethwy/Menai Bridge during May and June 2008.

 

Golwg

15 Mai 2008 gan Non Tudur

 

Arlunydd y bwrdd cegin a'r cychod

Ar fwrdd y gegin y mae Catrin Williams fwya’ cartrefol yn gweithio ar ei lluniau, sy’n cynnwys darnau o ddefnydd yn ogystal a phaent.

“Dim ond bod y plant yn cwyno bod yna binnau ymhobman,” meddai’r artist a gafodd ei magu ar fferm yn y Bala, ond sy’n byw bellach ym Mhwilheli ar ôl priodi dyn o’r dre’.

Os yw’n gweithio ar dirlun, fe fydd hi’n treulio amser yn dod o hyd i’r man iawn ar hyd arfordir Llyn, ym Mhenllyn neu Fon er mwyn gwneud y darlun cynta’ mewn siarcol cyn mynd yn ôl gartre’ i orffen y gwaith.

“Mae’n rhaid i fi gael y siapiau, a gweithio o fywyd,” meddai’r artist, sydd ag arddangosfa ar hyn o bryd yn Oriel Tegfryn ym Morthaethwy.

Ar ôl dod adre’, i’r ty sydd gyferbyn ag Ysgol Glan y Môr ym Mhwilheli, bydd yn darlunio ar ganfas ac yn pwytho darnau o ddefnydd ac yna’n paentio ac yn sychu’r darn.

Fe fydd yn gwneud y “gwaith glan” ar fwrdd y gegin a’r “gwaith budr” yn y gweithdy.

Fel nifer o artistiaid sydd a’u gwreiddiau yn ardal y Bala, mae’n anochel bod elfennau o’r bywyd Cymraeg yn rhan annatod o’i gwaith, meddai.

Fe fydd hi’n hoffi cyfeirio at yr hen ffordd Gymreig o fyw - yn ogystal â’r tirluniau, mae ganddi luniau o lestri te a chacennau bach ar fwrdd y gegin.

Dyw ei thirluniau chwaith ddim yn bethau difywyd - mae prysurdeb y pysgotwyr a’u cychod yr un mor bwysig a lliwiau’r mor a’r adeiladau.

“Fues i’n crwydro Mon,” meddai, “yn gweld pysgotwyr Moelfre yn paratoi i fynd allan ac yn trwsio’r cychod.

“Dw i’n licio Aberdaron oherwydd yr eglwys a’r lan môr mor ffantastig efo’r cerrig beddau wrth ei ochr.”

Er ei bod hi’n dal i hoffi cynnal gweithdai gyda phlant a phobol ifanc ac er ei bod hi’n byrlymu siarad am y murlun enfawr y mae hi a phlant Blaenau Ffesriniog newydd ei gwblhau, mae ei gwaith bellach yn gwerthu trwy Gymru a thu hwnt.

“Dw i wedi cymryd ugain mlynedd o weithio’n gyson,” meddai. “Mae’n cymryd amser i bobol ’nabod eich gwaith a’i hoffi. Mae’n rhoi cymaint o bleser i fi. Mae lot o haenau i’r gwaith - mae pobol yn ffeindio’u symbyliad eu hunain yn y gwaith.

“Mae hi’n bwysig i rywun gael rhywbeth gwreiddiol,” meddai wedyn. “Dydi fy lluniau i ddim yn rhad, ond mae lot o waith yn mynd i mewn iddo, achos y gwnio. Swn i’n licio rhoi gwaith am ddim, ond alla i ddim!

Mae hi hefyd yn gwneud gwaith haniaethol a 3-D. Yn y gorffennol fe wnaeth gyfres o weithiau’n seiliedig ar nodau dust defaid mynydd a oedd yn cyfeirio’n ôl at ei magwraeth amaethyddol, a chyfres o ffrogiau yn adlewyrchu gwisg draddodiadol partion cerdd dant.

Ei hathro oedd yr arlunydd Peter Prendergast a fu farw y llynedd ac ef a wnaeth ei sbarduno i ddal ati â chelf. Mae hi’n falch ei fod wedi ei chanmol am ei ffrogiau cerdd dant cyn iddo farw.

“Roedd e’n rili licio nhw,” meddai. “Roedd hynna’n neis.”

 

Yr anian gerddorol

Chaiff Catrin Williams ddim dianc rhag y dylanwadau cerddorol a oedd mor gry’ arni pan oedd yn blentyn yn y Bala. Ymunodd, yn anfoddog ar y dechrau, â Chôr Gwrtheyrn yn ddiweddar, er nad oedd wedi canu ers pan oedd yn fyfyrwraig ifanc ar y cwrs sylfaen celf ym Mangor. Ar ôl cael ei swyno gan y gân ‘Canys Bachgen a Aned i ni’ aeth ati i wneud gwaith yn seiliedig ar y sol-ffa, a oedd yn ei hatgoffa o’i thad. “Mae yna rywbeth yn’o ni,” meddai. “Mae’n ddiddorol bod y traddodiad cerddoriaeth mor agos at fyd celf. Edrychwch ar y Super Furry Animals - celf wnaethon nhw ei astudio.”

Copyright © Catrin Williams
Design - Almon