Archive

Homeland – Oriel Ynys Môn, Llangefni - Solo exhibition

Herald Cymraeg - 27 July 2016
Bethan Gwanas takes part in a Catrin Williams 'masterclass' at her exhibition in Oriel Ynys Môn and is swept up in the excitement and enthusiasm Catrin has infused into everyone's artworks

 

Cyrsiau undydd fwy fel gwyliau

Os ydach chi fel fi, am amrywiol resymau, yn anhebygol o gael gwyliau ‘go iawn’ fel pawb arall eleni, dyma syniad i chi: be am chwilio am gyrsiau lleol sy’n para diwrnod? Maen nhw i’w cael, dim ond i chi sbio ar y we neu yn eich papurau lleol.

Mae’n dibynnu be sy’n eich diddori chi wrth gwrs, ond weithiau, mae’n werth cymryd cam i fyd newydd, diarth. Sut mae disgwyl i chi wybod os ydach chi’n hoffi rhywbeth os na rowch chi gynnig arni?

Er enghraifft, be am sbio ar wefan Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd (www.tynewydd.cymru) (01766 522 811) i weld pa gyrsiau undydd sydd ar gael?

Ar Fedi 17 mi fydd yr awdures, Caryl Lewis, yn cynnal cwrs rhyddiaith, lle gallwch chi roi cynnig ar ysgrifennu rhywbeth am y tro cyntaf ers eich dyddiau ysgol, efallai, neu be am ysgrifennu straeon ysgafn efo Harri Parri ar y 15fed o Hydref? Does dim rhaid i chi fod yn brofiadol cyn mentro ar y cyrsiau yma, wir yr.

Hoffi barddoniaeth? Mi fydd Mererid Hopwood yn cynnal gweithdy ar Hydref 22, ac os dach chi isio mynd yn ôl i fyd plentyndod, mi allwch chi dreulio dydd Sadwm braf yng nghwrnni fy nghyd-golofnydd, Angharad Tomos ar Tachwedd 12fed. Rhyw £32 ydi cost y diwrnodau hyn, yn cynnwys cinio, sy’n fargen, wir yr.

Os dach chi ffansi gwneud rhywbeth gyda’ch dwylo, be am un o gyrsiau crefft Siop Iard yng Nglynllifon? Am ryw £50 (mwy yn dibynnu ar gost defnyddiau) mi allwch chi ddysgu sut i greu celf – neu rywbeth defnyddiol i’r ardd neu’r cartref – allan o lechi gyda David Stephen ar Fedi 18, neu greu golygfa glan môr gyda Therese Urbanska ar Hydref 1af. Neu be am wneud modrwyau arian efo Angela Evans ar Hydref 8fed?

Mae ’na lwyth o gyrsiau difyr eraill gynnyn nhw, o wneud basgedi brwyn i dlysau haearn, felly cymrwch olwg ar wefan iard.co.uk neu ffoniwch nhw i holi – 01286 672472.

Dwi’n tynnu sylw at y cyrsiau yma oherwydd eu bod nhw wedi rhoi ffasiwn bleser i mi dros y blynyddoedd. Do wrth gwrs mod i wedi mwynhau’r cyrsiau sgwennu – ond nid pob un, rhaid cyfadde. Weithiau, dydi’ch bren chi jest ddim wedi deffro’r bore hwnnw, neu, yn anffodus, doeddech chi ddim yn gallu cymryd at arddull y tiwtor am ryw reswm. Mae’n digwydd.

Dwi wedi mwynhau pob cwrs Iard i mi fod arno a dod adre’n teimlo ddeng mlynedd yn iau. A fore Iau diwethaf, mi es i’r holl ffordd i Oriel Môn yn Llangefni i gael ‘dosbarth meistr’ efo’r arlunydd Catrin Williams o Bwllheli (ond o Benllyn yn wreiddiol). Oedd o werth o? Nefi, oedd.

Roedd o’n gwrs byr iawn, dim ond o 11 y bore tan 3 y pnawn, efo hanner awr i ginio, ond mae bwrlwm Catrin yn heintus ac roedd pawb wedi creu llwyth o waith erbyn y diwedd. Do, mi wnaeth hi ein gweithio ni’n galed, ond doedd o ddim yn teimlo fel gwaith; doedd o ddim yn teimlo’n rhy frysiog chwaith.

Roedd y lle yn ddelfrydol, ynghanol stafell enfawr lle mae’r arddangosfa diweddaraf o waith Catrin i’w weld hyd y 7fed o Awst. Roedd hi felly’n gallu cyfeirio at ei gwaith ei hun wrth roi tasgau i ni. Dwi’m yn cofio faint ohonon ni oedd wrthi – rhyw 16, rhywbeth felly; rhai yn perthyn i ddosbarthiadau celf, rhai yn astudio celf yn y coleg a rhai, fel fi, ddim ond isio cyfle i chwarae efo paent ac inc heb deimlo’n euog. la, euog: mae gen i wastad ormod o waith pan dwi adre yndoes? Mae mynd i rywle am y diwrnod i botsian efo lliwiau a siapiau ymysg pobl eraill o’r un anian yn teimlo fel… wel gwyliau. Ac mae pawb angen gwyliau, yn enwedig os ydach chi wedi bod drwy amser anodd o ryw fath, neu jest isio dianc rhag y drefn arferol.

Mae’n ffordd wych o ddod i adnabod pobl newydd hefyd. Roedd yno griw go lew yn bobl ddi-Gymraeg wedi ymddeol wrth reswm, ond roedd nifer yn, neu wedi dysgu Cymraeg, ac mi soniodd sawl un eu bod wedi dysgu mwy o Gymraeg y diwrnod hwnnw nac mewn wythnosau o wersi! Cwrs dwy-ieithog oedd o, ond doedd Catrin ddim yn cyfieithu pob gair i’r Saesneg o bell ffordd, o na, roedd y di-Gymraeg yn gorfod canolbwyntio o ddifri, a wir i chi, yn hytrach na chwyno, roedden nhw’n amlwg yn gwerthfawrogi’r profiad.

Efallai mai drwy gyrsiau ‘gwneud’ fel hyn mae dysgu Cymraeg. Dwi’n bendant am gynnwys sesiwn o dynnu llun efo fy nysgwyr i pan welai nhw eto fis Medi.

Iawn, roedd gweld talent go iawn ambell un yn gallu gwneud i rywun deimlo fymryn bach yn eilradd ar adegau, ond nid cystadleuaeth ydi o naci? Rhaid anghofio am rhyw lol felly a jest mwynhau y rhyddid i greu ac arbrofi a dysgu sgiliau newydd. Mi fues i hyd yn oed yn hymian i mi fy hun wrth fynd fymryn yn wallgo efo inc gwahanol liwiau a darnau o ddefnydd lliwgar a glud. Mae’ r gwaith wnes i, fel arfer, yn anorffenedig ac yn debygol o aros yn anorffenedig am hir. Efallai, rhyw ddiwrnod, yr af i ati i’w orffen, efallai ddim. Nid dyna’r pwynt – mi wnes i fwynhau fy hun a mynd adre efo gwên ar fy wyneb, yn teimlo ddeng mlynedd yn iau. Bargen am £30.

Os ydi hyn wedi codi awydd chithau, mi fydd Catrin yn cynnal diwrnod tebyg, fymryn yn hirach yn Iard, Glynllifon ar Ddydd Sadwrn, 14 lonawr am £50.

Mae ’na gyrsiau byr o bob math i’w cael mewn gwahanol golegau hefyd, o godi waliau cerrig yng Nglynllifon i Hybu Gwerthiant Drwy Farchnata yn y Rhyl, drwy Goleg Llandrillo Menai. Chwiliwch, a chwi a gewch. Mwynhewch!

Copyright © Catrin Williams
Design - Almon