Erthyglau

Dathlu perthyn mewn paent a phwyth

Mae elfennau cyfarwydd a newydd yn rhan o arddangosfa ddiweddaraf Catrin Williams, sydd wedi bod wrthi'n creu ers 35 mlynedd. Bu'n trafod y gwaith gyda Rhiannon Parry.

clawr cylchgrawn barnUn o bedwar o blant a fagwyd ar fferm fynyddig yng Nghefnddwysarn ym mhlwyf Penllyn yw Catrin Williams. Er bod pob un o’r pedwar wedi astudio Celf Safon Uwch, Catrin yn unig a aeth ymlaen i goleg celf – Coleg Celf Caerdydd. Erbyn heddiw, hi yw un o artistiaid cyfoes amlycaf a mwyaf cynhyrchiol Cymru.

Yn ei harddangosfa ddiweddaraf yn oriel Celf Canol Cymru yng Nghaersŵs, ceir cyfle i weld yn agos at gant o weithiau amrywiol ganddi. Cefais olwg arnynt pan es draw i’w chartref ym Mhwllheli i’w holi ychydig wythnsau cyn yr agoriad.

Y gwahoddiad i arddangos yng Nghaersŵs, mewn oriel sy’n enfawr, oedd yr ysgogiad, meddai Catrin, ‘i greu rhagor o weithiau newydd, a hyd yn oed ailbobi ambell un!’

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon