Cafodd Catrin ei dewis i gymryd rhan mewn bron bythefnos o weithgareddau celf yn Harlech. Dyma'r 9fed gwyl Biennale Harlech i'w gynnal.
Roedd artistiaid rhyngwladol o Hwngari, Rwmania, Awstria, Sbaen, yr Eidal, Bwlgaria, Cymru a Lloegr yn gweithio ar y dirwedd uwchben Harlech, gan dynnu ar eu harferion artistig a'u cefndir diwylliannol eu hunain wrth weithio ar y thema Pontio Rhyngwladol. Roedd y gwaith yn cael ei ddangos dros y rhyngrwyd mewn amser real mewn orielau celf - CCAM Naples, yr Eidal; NEXO Toledo, Sbaen; Galichnik Art Colony, Skopje, Macedonia; AirSpace Gallery, Stoke on Trent.


Mae i'r Mabinogi - casgliad o straeon a gofnodwyd mewn llawysgrifau canol-oesol sy'n cynnwys elfennau o fytholeg cyn-Gristnogol - bedair rhan neu gainc, mae'r ail gainc yn adrodd hanes Branwen ferch Llyr a'i phriodas â Matholwch Brenin Iwerddon. Ar gychwyn y stori mae Bendigeidfran, brawd Branwen, yn sefyll ar graig yn Harlech yn edrych ar lynges Matholwch yn dod tua'r lan . . . mae Matholwch ar ei ffordd i ofyn am law Branwen mewn priodas. Dyma gychwyn ar dreialon Branwen a dyma gychwyn fy mhroject ar gyfer Biennale Harlech.
Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon