Archif

Cyflwyniad i arddangosfa 'Dathliad'
gan Dr Ceridwen Lloyd-Morgan

2026

 

Catrin Williams - Dathliad

Pan welais i luniau gan Catrin Williams am y tro cyntaf, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1992, yr hyn a ddaliodd fy llygad yn syth oedd y palet bywiog a’r siapiau chwareus, lled haniaethol. Roedd y gwaith yn hyderus ac yn gwbl wahanol i bopeth arall yn yr arddangosfa. Dros y blynyddoedd ers hynny bum i’n dilyn ei gyrfa a dotio ar y ffordd yr esblygodd ei harddull a’i ffordd o weithio tra’n cadw’r stamp unigryw sydd yn ein galluogi i adnabod ei gwaith yn syth. Mae yna ryddid braf yn ei dull o gyflwyno cynnwys llun, boed yn dirlun neu osodiad o wrthrychau cyfarwydd, a’r rhyddid hwnnw i’w weld beth bynnag fo’r cyfrwng: darluniau ar bapur, paentiadau olew ar fwrdd neu gynfas, neu gweithiau cyfrwng cymysg.

Yn yr arddangosfa hon cawn ddetholiad sy’n cyfleu ystod ac amrywiaeth ei gwaith diweddar. Yr hyn sy’n ein taro wrth edrych ar y tirluniau yw mai trefi a phentrefi sy’n denu’r artist, llefydd y mae pobl yn rhan annatod ohonynt, er na welwn y bobl hynny. Nid golygfeydd o gefn gwlad gwag yn y dull pictiwrésg clasurol mo’r lluniau hyn, yn hytrach cyflwynant amgylchfyd a grëwyd ac a ddefnyddir gan bobl. Cyflëir hyn yn y bensaernïaeth yn Cloc y Dref, er enghraifft, neu Dinbych y Pysgod, lle mae i’r adeiladau eu hunain, boed yn fythynnod syml, yn dai mawr trefol, eu personoliaeth ei hunain.

Yn amlach na pheidio, trefi neu bentrefi ar lan y môr a ddarlunnir, lle bydd cychod bach yn dawnsio ar y tonnau, a siâp bwa y ffin rhwng y dŵr a’r tir mewn lluniau fel Gola’r Gorllewin, Tua’r Gorllewin neu Hud Penfro yn denu’r llygad i ddilyn draw at y tai. Ac er bod y lliwiau gloyw yn y paentiadau olew yn cyfleu bywiogrwydd, hyd yn oed yn y darluniau monocrom hyn mae symudiadau rhydd y llinellau yn creu’r un un naws.

Thema bwysig arall yw blodau a phlanhigion. Boed y rheiny y tu allan yn yr ardd, fel yn Gardd y Ficerdy, neu mewn llestr yn y tŷ yn Parti yn y Blodau, nid darluniau botanegol sidêt mohonynt: maen nhw’n llenwi’r cynfas hyd at yr ymylon gan greu ffrwydrad o liwiau sy’n ceisio dianc o gyfyngderau’r ffrâm. Does dim byd bocs-siocled o ddel yn perthyn i’r lluniau hyn: mae’n nhw’n llawn dop o egni, a gall y planhigyn mwyaf cyffredin droi’n greadur go ecsotig.

Yn yr un modd, go brin bod ‘bywyd llonydd’ yn derm addas i ddisgrifio cynnwys lluniau mor ddeinamig â Casglwr, Esgid Luned neu Ci Anti Glenys. Fel yr awgryma’r teitlau hyn, mae’r gwrthrychau a gydosodir yn gyforiog o atgofion: synhwyrwn fod pob un â’i ran yn hanes personol a theuluol yr artist ac yn dwyn i gof iddi unigolion a chyfnodau arbennig yn ei bywyd. Ond mae’r gweithiau hyn yn taro tant gyda ninnau hefyd, yn ein hatgoffa o gartrefi sydd yn gyfarwydd i ninnau, lle mae pob un o’r creiriau ar y dresel neu’r silff ben tân â’i stori ei hun ac yn agor drws y cof. Efallai y daw elfen o hiraeth ambell waith, ond nid heb ryw deimlad bach cynnes o gysur mewn atgofion.

Eto i gyd gwelwn yn rhai o’r creiriau hynny adlais o ystrydebau twristaidd am Gymru a’i phobl, ond mewn paentiadau fel Parti’r Teganau gyda’r ddoli yn ei gwisg Gymreig, neu’r llestri te prynhawn yno ac yn Parti yn y Blodau, mae Catrin Williams yn adfeddiannu’r delweddau confensiynol, gan edrych arnynt o’r tu mewn i’n diwylliant ac ar eu hystyr i ninnau. Cyfrwng cymysg yw rhai o’r lluniau hyn, yn cynnwys darnau bach o ddefnydd wedi eu gwnïo ar y lliain – cyfeiriad bach cynnil at draddodiad y cwilt clytwaith a’r mat rhacs traddodiadol Gymreig. Efallai y bydd y dylluan sy’n hedfan i mewn i P’nawn yn y Gelli, Hela yn y Nos neu Tylluan Warcheidiol yn peri inni feddwl am hen chwedl Blodeuwedd ac fel hithau creadur amwys yw tylluan y paentiadau: mae hi’n hela ond hefyd yn gwarchod. Yma, ac mewn lluniau eraill megis Macrell i Swper, mae’r artist yn herio’r ffin rhwng yr haniaethol a’r cynrychioladol a rhaid oedi a gadael i’r wahanol elfennau ddod yn raddol i’r golwg.

Yn ei gwaith mae Catrin Williams yn ymwrthod â chategorïau confensiynol ac yn ymddiried yn ei gweledigaeth unigryw hi ei hun. A’r hyn sy’n greiddiol i bob un o’r lluniau a welwn yma yw ei Chymreictod a’i gallu i gyfleu holl antur bywyd. Yn yr arddangosfa hon cawn yr un egni a joie de vivre fu’n nodweddiadol ohoni o’r cychwyn – ac mae’r lliwiau’n dal i ganu.

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon