Yr artist abstract gorau yng Nghymru.
Syr Kyffin Williams
Dechreuodd Catrin Williams arddangos ei gweithiau celf bron ugain mlynedd yn ôl ac ers hynny mae ei gwaith wedi teithio ar draws y byd. Fe’i magwyd ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, ond mae wedi byw wrth ymyl y môr ym Mhwllheli ers 1996. Cymreictod - neu yn hytrach y profiad o fyw yn Nghymru - yw un o’r themau cryfaf yng ngwaith Catrin Williams; mae’r ddresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi gweu drwy’i gilydd ac yn mynnu sylw. Dros amser datblygodd y themau cartrefol a theuluol i gynnwys elfennau o’r symbolau twristaidd o Gymru fel y llieiniau golchi llestri ystrydebol.
Golygfeydd ydi’r mwyafrif o’r gweithiau sydd i’w gweld yn yr arddangosfa hon. Mynyddoedd a phentrefi ucheldiroedd Meirionnydd yn ogystal â phorthladdoedd bychan arfordir Môn a Llyn. Cynefin yr amaethwr, y chwarelwr a’r pysgotwr - yr awyr agored ochr yn ochr â darluniau’r bywyd cartrefol yn y gegin Gymreig. Fel yr ysgrifennodd Tamara Krikorian am waith Catrin - “I’w weithio mae’r tir iddi hi - i’n cartrefu, i’n bywiogi, i gynnig ffordd o fyw, i’w rhannu gan y gymdeithas. Mae delwedd rhamantus y tirlun - y ddelwedd honno sydd wedi ei chofleidio gan genhedlaethau o baentwyr - yn rhywbeth sydd tu hwnt i’w deall”.
Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon