Erthyglau

Catrin Llwyniolyn gartref gyda Marianne Nicolson

Siân Melangell Dafydd

Anodd yw gwadu, wrth sefyll o flaen Te Cymreig gan Catrin Williams, mai’r lle mwyaf cartrefol a hapus, y lle i ddarganfod ein hunaniaeth, yw cegin mam. Catrin Llwyniolyn, fel y gelwir hi, Catrin o’i chartref, Llwyniolyn, yng Nghefnddwysarn ger Y Bala sydd yn paentio’r Te Cymreig, ac mae’n gwneud hynny mewn modd sydd yn dod â chynefindra bywyd teuluol yn fyw ar y cynfas. l’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â phrofi blas te yn y gegin Gymreig, mae hi’n peintio’r gwres yn fras a lliwgar, yn lliwiau beiddgar y plentyn sydd ym mhob un ohonom. Mae hi’n deall Cof Cenedl, rôl y taid a’r nain a’r rhieni a’r plant yn ei chymdeithas ac yn y teulu. Hynny sydd wedi siapio ei siapiau haniaethol, a phigo lliwiau ei phaent. Y deallusrwydd hynny sydd yn dod â’r angerdd yn fyw i’r person yn sefyll o flaen y cynfas, byddo’n aelod o’r teulu neu’n estron. Wrth eistedd yn ei chegin ei hun, mae Catrin Williams yn wynebu a gwahodd byd rhyngwladol y celfyddydau i Gymru.

Wrth eistedd yn ei chartref ei hun, ar arfordir gogledd-orllewin Colwmbia Brydeinig, i’r gogledd o Ynys Gilford, mewn pentref bach a elwir Gwa’yi (neu gilfach Kingcome), mae Marianne Nicolson yn dangos i ni, i Gymru ac eraill, liwiau ei chynfrodorion ei hun. Eto, y cartref sydd yn trwytho’r gelf. Symudodd ei theulu yn ôl i Gwa’yi pan oedd yn ddeg oed, ar ôl iddi gael ei magu ar Ynys Vancouver. Mae hi’n sôn am ddarganfod y teimlad newydd o fod yn fwy nag unigolyn, ond ei bod yn hytrach yn nith, cyfnither, modryb a wyres. Mae gwahoddiad cynnes a naws groesawgar Catrin Williams i’w weld yn Big House gan Marianne Nicolson. Dyma ei chartref, fel gosodiad syniadaeth yn arddangosfa ‘Reservation X’ yn oriel Canadian Museum of Civilization’s First Peoples Hall 1998. Mae wedi ei ysbrydoli gan dai mawr traddodiadol ei phobl, sydd yn cartrefu llawer teulu. Trwy ddewis cyflwyno ei chartref yn y modd yma, mae hi’n gwahodd y gynulleidfa (bo’n gymydog neu’n dramorwr) i gerdded i mewn ac allan o’r gosodiad. Trwy ein galluogi i weld y tŷ o’r tu mewn ac o’r tu allan, mae hi’n agor y ddeialog i gynnwys persbectifau gwahanol o’i chymdeithas trwy lygaid dieithriaid.

Ymddengys gwaith y ddwy artist ifanc yma fel eu bod yn gweithio mewn dau gyfeiriad gwahanol, neu fod posib gosod dau bersbectif gwahanol arnynt. Yn gyntaf, ceir teimlad o ddiwylliant neilltuol ac unigryw, ac o berthyn. Ar yr un pryd, mae’r union deimlad yna o berthyn yn bodoli’n arbennig rhwng yr arlunwyr a’u diwylliant unigryw, yn brofiad personol ac ynysig. Dyrna lle mae eu gwaith yn gweithredu ar lefel arall. Trwy’r olwg fewnblygol yma, a thrwy roi mynegiant i’w neilltuaeth, mae Catrin Williams a Marianne Nicolson yn mynnu lle i’w celf gynhenid yn y byd celf ryngwladol. Mae perthyn mewnblygol a rhannu rhyngwladol yn gweithio law yn llaw.

Mae’r Cymry, fel brodorion Canada, yn enghreifftiau o’r diwylliannau hynny sydd yn cael eu hymylu gan ddiwylliant cryfach y Gorllewin ac eto, yn cael eu hanghofio yn y drafodaeth mn ddiwylliannau ymylol am eu bod yn byw ac yn gweithio o fewn y Gorllewin. Yn ei lyfr diweddar, Certain Welsh Artists, mae Iwan Bala yn dangos ei fod yn hyderus y gall diwylliannau o’r fath fyw mewn byd ôl-drefedigaethol ac y gallwn gyrraedd math o gymdeithas sydd yn aml-ddiwylliannol, heb ddinistrio’r diwylliannau unigol o’i mewn. Ar ôl dylanwad niweidiol Moderniaeth a’i himperialaeth ddelfrydol, a’r pwyslais ar greu diwylliant o un potes Gorllewinol, rydym yn dod at syniadaeth wrthgyferbyniol Ôl-foderniaeth. Yma, tra bo materion ethnig yn ffasiynol, y cawn y cyfle, a’r llais i fynegi ein hunain yn y maes rhyngwladol, heb orfod bradychu ein diwylliant er mwyn bod yn rhan ohono. Dyma ein hamser ni, yr amser pan fo mudiadau celf yn symud o blaid ein hachos ni, ac y gallwn gymryd mantais arno i sefydlu ein hunain ar sail mwy parhaol.

Dangosa Marianne Nicolson yr optimistiaeth yma ynghylch y cyfle i dyfu o fewn ei diwylliant, tra’n llwyddo ar yr un pryd oddi allan iddo, yn ei Climbing Tree of Life (1999). Mae hi’n pwysleisio naws gyfoes y gwaith, yn gwadu unrhyw gyhuddiad mai diwylliant hynafol neu farw sydd ganddi, gan herio’r feddylfryd honno drwy baentio’r llun yn lliwiau’r ddaear. Dyma ddarn sydd yn ffrwyth ysbrydoliaeth a gwybodaeth ei hewythr am gelfyddyd y Kwakwaka’wakw. Mae hi’n cysylltu gorffennol, presennol a dyfodol ei phobl â un ddelwedd sydd yn dangos parhad di-fwlch diwylliant ei chelfyddyd. Fel Te Cymreig Catrin Williams, rhan o ddefod arferol ei bywyd hi sydd ganddi yma. Mae cynllun y darn yn ogystal â lliw coch y ffrâm yn dibynnu ar batrymau blancedi botymau gwisgoedd seremonïol brodorion Canada. Ar y gwisgoedd arbennig yma, byddai darlun yn y canol yn uniaethu’r gwisgwr gyda hynafiad arbennig. Yn y Climbing Tree of Life mae ysgrifen o amgylch y goeden yn mynegi “Mae plant yn dringo drosof i fyny’r Goeden Fywyd ac i mewn i’r Nefoedd”, ac mae’r goeden ei hun yn cynrychioli’r broses ym mhob cenhedlaeth o adnewyddu drwy farwolaeth a genedigaeth.

Gwêl Catrin Williams yr un cysylltiad anochel rhwng ei gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Yn Pethau Brau (1997) cyflwyna photocollage wedi ei greu o gasgliad o atgofion ar ffurf ffotograffau a darnau papur newydd o’i bywyd, a hanes ei theulu. Rydym yn ein tro, yn cael ein harwain at ein hatgofion ein hunain drwy uniaethu a’i rhai hi, ac felly cyd-atgofion sydd ganddi. Ei gwreiddiau sydd yn gyrru ei gwaith personol, ac yn ei gyrru i beintio teitlau megis Gwanwyn Cyntaf Elis er mwyn rhoi gwreiddiau a’r teimlad cryf yma o berthyn i’w phlant, ac i genhedlaeth y dyfodol. Diffyg atgofion megis gwreiddiau teuluol y mae wedi ei weld yn ei myfyrwyr yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac ofn y golled yma sydd yn ei gyrru i baentio a gwneud ei hatgofion personol yn atgofion cyffredinol. Rhaid peidio anghofio fod ei dewis o deitl ar y gwaith yma yn cofnodi ei hanes ‘brau’. Fel rhan o’r un prosiect, Pethau Brau, a gomisiynwyd gan Cywaith Cymru, roedd ganddi hefyd gyfres o hunan-bortreadau. Peintiwyd rhain ar ffurf bywyd cartrefol cymdeithas Gymreig, symbolau o rywbeth bregus, hawdd eu torri, sef platiau. Tyfodd y gosodiad o’i darluniau o ddresel yng nghartref ei rhieni fel syniad o bortread teuluol. Mae’n ymwybodol o’r perygl i atgofion wywo, ac iddi hithau ddatblygu’n rhan o’r atgofion a’r anghofio. Mynna ei phresenoldeb bersonol a chenedlaethol mewn lliwiau sydd yn gweiddi hynny, gyda gwead sydd yn neidio allan o’r cynfas neu o’r plât, gyda hunan-bortreadau a mynegiant bywiog, bochgoch, llygaid agored anferth a gwefusau llawn, yn chwareus ac yn herio ar yr un pryd.

Gwelir fod llais Marianne Nicolson yn cael ei osod yn ei gwaith trwy gyfrwng celf weledol a thrwy gynnwys iaith, a’i hiaith ei hun yn rhan o Climbing Tree of Life. Peth dyfnach na wyneb y cynfas yw gwreiddiau, fel a welir yn hynafiaeth a gwreiddiau cynllun y gwaith yma, gyda’i gyfeiriadau at draddodiadau eraill. Mae gwaith Catrin Williams yn curo, anadlu, a chanu’r traddodiad Celtaidd o gerddoriaeth a pherfformio o flaen traddodiad celf Ewropeaidd a Chlasurol. Yng Nglynllifon, wrth berfformio gyda Cwmni Cortyn, bu hi’n addurno cerrig yr orsedd. Wrth wneud hyn roedd hi’n siapio Cof Cenedl ac yn uniaethu celf gyfoes â’i hynafiaid trwy weithred fywiog, ac yn meddiannu y traddodiad hwnnw ar ran celfyddyd gyfoes. Mae’r cais yma i danlinellu eu hiaith, eu hynafiaeth a’u dyfodol yn hanu o angen i ddiogelu ac amddiffyn eu diwylliant. Mae’r ddwy artist yn ymwybodol o’u statws brau, ac mae ymwybyddiaeth o’r gwendid yma yn eu gyrru i fynnu a hawlio cryfder traddodiad.
Cyflwyna hyn benbleth i artistiaid fel hyn. Yr union farchnad y maent yn gorfod ceisio cymeradwyaeth ganddi, a’r farchnad sydd â’r gallu i farnu eu gwaith yn ‘ffasiynol’ yw’r gymdeithas Orllewinol sydd ar yr y naill law yn angenrheidiol, ac ar y llaw arall yn ddinistriol ac yn mygu eu cymdeithas leiafrifol! Mae tir yn draddodiadol wedi cario pwysau hunaniaeth, gan brofi bodolaeth cenedl drwy ei heiddo, a’r hanes y gallant gysylltu â’r tir hwnnw. Nid lle i dwristiaid na delweddau o Gymru gyda ystrydeb o ferched yn cymryd te hefo hetiau tal du, na thirluniau llonydd ac ambell ddafad esthetig yw Cymru Catrin Williams. Ei Chymru yw bwrlwm a baldordd te teuluol, a thir gwaith caled a ffordd o fyw ffermwr. Gwelodd ymdrech i gymryd hyn oddi ar ei theulu a’i phobl, y fywoliaeth, hanes, atgofion a’r cariad yr oedd y tir hwnnw yn ei gario. Mae hi yn ail-haeru y diwylliant, er enghraifft yn ei Nodau Clust. Dyma gasgliad o siapiau clustiau defaid yn hongian ac wedi eu marcio â nodau clust. Mae’r dull yma o nodi defaid yn prysur ddiflannu wrth i’r gymdeithas ffermio wanhau, ond yma gwelir hi’n rhoi mynegiant i’r agwedd hon o’r diwylliant, ac yn cyfieithu ei werthoedd personol ac unigryw, a hawlio gweithio’r tir, i fyd celf.

Teimla Marianne Nicolson yr un atynfa at ei thir ei hun, er iddi hi hefyd orfod gadael Gwa’yi a byw yn y ddinas. Yn Nam’sgams/Malt’sams (Un Tŷ/Dau Dŷ) (1999) mae hi’n cyflwyno triptych o dri siâp tŷ efo collage a ffotograffau yn dangos bywyd cymdeithasol yn lle drws y tai. Mae hi’n ystyried y berthynas rhwng y ddelwedd ohoni fel unigolyn tra bo hi yn y ddinas, a’r ddelwedd ohoni fel rhan o gymdeithas yn Gwa’yi wrth iddi barhau i ddychwelyd. Ni all yr atyniad at y tir ddiflannu, hyd yn oed os yw’r arlunwyr yma yn cael eu gwahanu oddi wrtho. Os rhywbeth, mae’r angerdd a’r gwreiddiau yn magu cryfder. Fe allai geiriau Marianne Nicolson fod yn eiddo i enau Catrin Williams, Rydym yn parhau i fodoli ar y tir yma er yr holl ymdrechion i ‘n symud ni, ac fe barhawn i fodoli yma ymhell i’r dyfodol, ni allwn gael ein symud. Mae’r tir yn rhan ohonom, a ninnau ‘n rhan ohono.

Nid yw’r triptych Nam’sgams/Malt’sams yma wedi ei wreiddio mewn dim o hanes na ffrâm ddiwylliannol hanes celfyddyd Ewropeaidd, nac ychwaith mewn hanes ymarferion oriel. Mae ei thai yn hofran yn ystafell yr oriel, ac ni ellir ei sodro gyda un ystyr gan ei fod yn ddiwylliant datblygol, yn newid wrth i’r bobl anadlu. Bu Catrin Williams yn trafeilio â’r grŵp Anhrefn yn Slovacia, Moldafia a’r Almaen. Wrth i’r band ganu ar lwyfannau, y tu cefn iddynt roedd Catrin Williams yn peintio ei hysbrydoliaeth ar gefndiroedd lliwgar. Gwelodd y gynulleidfa y paent yn wlyb, yn tasgu ac yn symud yn dod â’r stiwdio i’r oriel, a rhoi’r oriel ar lwyfan poblogaidd yn hytrach na mewn gofod elite. Oriel wahanol sydd ganddynt, a pherthynas wahanol â’u gwylwyr. Cerdda’r gwyliwr i mewn i gartref celf Marianne Nicolson. Neidia cartref Catrin Williams o’r cynfas at y gwyliwr. Gwelir celf yn anadlu, yn symud, ac yn creu a thyfu. Mae’r ddwy artist yn creu a datblygu eu traddodiad celf, yn anadlu ieuenctid iddo. Dim tai pren a cherrig yr orsedd yn unig mae eu diwylliant yn ei gynnig.

Dyma ddau ddiwylliant sydd yn mynnu dangos eu bod yma, dau ddiwylliant sydd yn dangos eu bod yn wahanol i ffrwd ddylanwadol celf, a dau ddiwylliant sydd yn gwrthod newid na chymrodeddu eu traddodiadau, hanes, na’u dyfodol. Yn wyneb archolladwyaeth mae hyn yn ddewr, ond dyma beth yw eu tanwydd, a dim ond ar eu tir hwy mae eu deall a’u derbyn.

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon