Erthyglau

Mynd adref mewn paent a phwyth

Byd lliwgar Catrin Williams gan Menna Baines

clawr cylchgrawn barnEr ei bod wedi gadael Penllyn ers dros ugain mlynedd, mae ei magwraeth yno, ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn, yn dal i ddylanwadu’n drwm ar waith Catrin Williams. A’i rhieni’n dal i fyw yn yr ardal, bydd yn dychwelyd yno’n gyson o’i chartref ym Mhwllheli. Mae lluniau o’r Berwyn, Aran Benllyn a Llyn Tegid ymhlith ei thirluniau mwyaf diweddar, a bydd ambell un o’r rheini i’w weld ar y Maes eleni. Ac er iddi gael ei disgrifio gan Kyffin Williams fel yr artist haniaethol gorau yng Nghymru, mae pawb sy’n gyfarwydd â’i gwaith yn gwybod hefyd ei bod yn tynnu’n gryf ar ei hatgofion plentyndod am bethau diriaethol iawn. Cymerwch y nodau clust defaid, y ddresel Gymreig a’r llestri – mae’r rhain i gyd wedi cael lle yng nghreadigaethau Catrin dros y blynyddoedd ac yn 2005 lluniodd gyfres o ffrogiau ar thema cerdd dant.

Mae Catrin yn sôn am Gefnddwysarn a Sarnau ei hieuenctid fel ardal lle’r oedd creadigrwydd yn yr aer, rhwng yr holl weithgareddau diwylliannol, yn enwedig rhai cerddorol a dramâu. Bu hi ei hun drwy’r felin eisteddfodol ac mae ei disgrifiad o’r bwrlwm a geid yn Ysgol y Berwyn, llawer ohono y tu allan i oriau ysgol, yn creu darlun o ryw Lanaethwy cynnar, dim ond fod y cwbl yn rhad ac am ddim.

‘Roedden ni mor ffodus,’ meddai. ‘Roedd Iwan Bryn Williams, y prifathro, er mai gwyddonydd oedd o, yn rhoi statws i’r celfyddydau. Ac roedd yr athrawon mor ysbrydoledig ac yn rhoi cymaint o’u hamser ar ôl ysgol – pobl fel Gareth Jones, yr athro Lladin oedd hefyd yn gwneud lluniau, a’i wraig Gillian Jones oedd yn dod yno i ddysgu ffidil [rhieni’r artist a’r gof Angharad Pearce Jones], a Buddug James Jones oedd yn dysgu drama. Ac ynghanol y cwbl roedd celf, o dan Glyn Baines, yn cael parch mawr. Roedd yna gymaint o ysbrydoliaeth i’w chael yn yr ysgol.’

Mae paentio yn y gwaed yn sicr. Roedd pedwar plentyn fferm Llwyniolyn wedi etifeddu diddordeb modryb iddynt mewn celf, ond pedwar, dim ond Catrin, yr ieuengaf, a aeth ymlaen i wneud gradd yn y pwnc. Fel yn achos Iwan Bala rai blynyddoedd o’i blaen, y disgwyl teuluol oedd iddi sicrhau bywoliaeth ‘ddeche’ trwy fynd i ddysgu fel ei dau frawd a’i chwaer. Bu bron i Catrin gydymffurfio, ond wedi blwyddyn yn y Coleg Normal, Bangor, gwelodd ei chamgymeriad a phenderfynu dilyn ei greddf, gan wneud cwrs sylfaen mewn celf cyn mynd i Goleg Celf Caerdydd.

Nid yw wedi difaru am eiliad. Bu’r ugain mlynedd diwethaf yn rhai prysur iawn iddi gyda rhestr hyd ei braich o arddangosfeydd, projectau, gweithdai mewn ysgolion a chyfnodau o ddysgu (doedd y flwyddyn yn y Normal ddim yn ofer, wedi’r cwbl). Hynny a magu dau o blant, Elis a Luned, gyda’i gŵr, y dylunydd Bedwyr ab Iestyn.

‘Dwi ’rioed wedi stopio gweithio,’ meddai Catrin wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd o gyfuno gofalon mam â’i gwaith creadigol. ‘O ran gofalu am y plant, mae’r gwaith gwnïo dwi’n wneud wedi bod yn haws na’r paentio. Dwi’n hoff iawn o waith clytwaith Edrica Huws [artist tecstilau a gafodd gydnabyddiaeth ryngwladol tua diwedd ei hoes], a dwi’n cofio darllen rhywbeth ddywedodd hi unwaith, fel mam i bump o blant, sef y gallwch chi, efo gwaith gwnïo, ei dynnu o oddi ar y bwrdd, ei rolio fo i fyny a gwneud swper ar yr un bwrdd! Allwch chi ddim gwneud hynna efo paent olew.’

Yn ddiweddar, fodd bynnag, cafodd seibiant byr rhag dyletswyddau teuluol, a llonydd prin i baentio’n ddiymyrraeth, yn sgil project Celf Eden ym Mhlas Tan-y-Bwlch, Maentwrog, lle’r oedd hi’n un o nifer o artistiaid o bedair gwlad a ddaeth at ei gilydd i weithio am wythnos gan greu arddangosfa ar y diwedd. Ac yn ystod yr haf bydd yn treulio pum wythnos mewn oriel ar ynys Gogledd Uist yn yr Hebrides fel rhan o gynllun preswylfeydd ar y thema Tir a drefnir gan Oriel Plas Glyn-y-Weddw ar gyfer artistiaid o Gymru, Iwerddon a’r Alban.

Ond er mor werthfawr yw’r cyfleoedd hyn i ganolbwyntio ar y creu, mae’r bywyd teuluol a’i brysurdeb ynddo’i hun yn ysbrydoliaeth barhaus i Catrin, fel y tystia ei holl luniau o lestri a chacenni a blodau, sawl un ohonynt wedi’u hysgogi gan bicnic neu barti neu amser te. Ac mae peth o’i gwaith mwyaf diweddar ar themâu domestig o’r fath yn deyrnged o’r galon i’w rhieni am eu gofal a’u cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.

‘Wrth i rieni rhywun fynd yn hŷn, mae rhywun yn meddwl mwy am yr holl ofal mae o wedi’i gael ganddyn nhw trwy gydol ei fywyd. Ac wrth gwrs mae rhywun rŵan yn trio rhoi’r gofal yn ôl iddyn nhw. Mae’r lluniau diweddar o gacenni ac ati i gyd i wneud efo Mam. Doedd hi ddim yn paentio’i hun ond roedd hi’n creu cacennau gwych – bwyd oedd ei chreadigrwydd hi.’

Ydi, mae Catrin yn mynd yn ôl adref o hyd mewn mwy nag un ffordd.

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon