Archif

Barn

Medi 2009 gan Sian Northey
Adolygiad o Sonedau Pnawn Sul a gyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch

 

Swyn a 'sgytiad y sonedau

Nid yw Sonedau Pnawn Sul yn gyfrol drwchus - pedair soned ar hugain gan Iwan Llwyd a hanner dwsin o luniau gan Catrin Williams, lluniau wedi eu hysbrydoli gan gerddoriaeth Huw Warren. Does dim cysylltiad amlwg rhwng lluniau Catrin a sonedau Iwan ond ar ôl darllen rhyw bedair o’r sonedau roedd edrych ar felyn a phorffor a choch a glas, a siapiau cryfion, y delweddau yma yn union be oedd ei eisiau arnaf cyn ailddechrau darllen. Dwi’n cofio trefnu cwrs yn Nŷ Newydd i blant Ysgol y Moelwyn lle’r oedd Catrin ac Iwan i gyd-diwtora a gweld yr adeg honno sut roedd eu harddull yn gweddu i’w gilydd heb gyswllt bron.

Wna’i ddim gwastraffu lle mewn adolygiad byr fel hwn trwy drafod mesur y soned, ac mae yna bobl all wneud hynny yn llawer gwell na fi (er i mi fynd i gael cip sydyn yn y Cydymaith a synnu na sgwennwyd soned yn Gymraeg tan 1833, er iddo fod yn fesur yn yr Eidal er y 14g. os nad cynt). Ac mae’n siwr fod yna lawer i’w ddweud am yr amrywiadau sydd yn y sonedau yma, er enghraifft y ffordd mae’r soned i Monasterevin a sgwennwyd adeg ysgol haf Gerard Manley Hopkins wedi ei gosod. Beth bynnag am yr ochr dechnegol mae’n fesur sy’n agos at galon Iwan Llwyd a hynny yn rhannol oherwydd fod T. H. Parry-Williams yn agos at ei galon. Yn y diolchiadau ar ddechrau’r gyfrol mae’n diolch i T. H. Parry-Williams am ei ‘arwain at fesur y soned’. Ac mae yna ryw hud ym mydr ac odl soned sy’n swyno rhywun i ddarllen yn rhwydd, ac yna yn sydyn mae’r darllenydd yn sylweddoli ei fod wedi darllen rhywbeth anghyfforddus neu drist neu ddeifiol, neu wedi cael ei arwain yn ysgafn i edrych ar bethau o ongl wahanol.

Fel holl waith Iwan Llwyd, er dyddiau ei Sonedau Nos Sadwrn (nad oeddynt yn sonedau), mae yna ystod eang o destunau. Maent yn adlewyrchiad o’i deithio - mae yna gerddi am Buenos Aires a Kemperle, am Lerpwl a Soar y Mynydd, a hefyd yn adlewyrchiad o’i ymboeni am bopeth o felinoedd gwynt i Elvis. Ac mae yna gerddi dwys personol hefyd megis ‘Blues # 9’ a ‘Cwmni’.

Mae’r gyfrol, o ran ei diwyg, yn gweddu i’r mesur, yn fychan ac yn arwynebol dlws a syml, er fod yna ochr dywyll ac ochr liwgar fywiog. Efallai mai mewn cyfrolau bychain tlws fel hyn y dylid rhyddhau barddoniaeth. Yn sicr mae’n gweddu i’r casgliad yma.

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon