Archif

Rhai o'r gweithiau a'u cyflwyniadau

Pethe ar daith… - Y Plase, Y Bala, Gorffennaf 2011

ffrogiau cerdd dantdewch i deyr aran o tŷ cerrig

 

Ffrogiau Cerdd Dant

Rydwi wedi creu darnau celf wedi eu seilio ar gerdd dant ers 2003 ond gwnaed rhan fwyaf o’r gwaith ar y ffrogiau hyn yn ystod preswyliad Oriel Mostyn 2005. Dangoswyd rhain yn Kansas yn 2007. Mae’r ffrogiau yn deyrnged i Dodo Nen ac Yncl Dei am fy hudo pan yn blentyn i gystadlu ar ganu a chanu cerdd dant. Roeddwn yn cael mynd ar fy ngwyliau i Glantwrch yn ystod Eisteddfod Gadeiriol Llanuwchlyn am flynyddoedd lawer, a rhaid oedd cael ffrog newydd bob blwyddyn at yr achlysur. Ar adegau byddwn yn anghofio geiriau’r caneuon ynghanol nerfusrwydd y perfformiad ac roeddwn yn ysgrifennu ambell linell ar fy llaw - o wisgo un o’r ffrogiau hyn fyddai ddim rhaid poeni am hynny.

Roedd yn anrhydedd mawr i mi, yn Nhachwedd 2008, creu delwedd ar gyfer CD Côr Seiriol dan arweiniad Gwennant Pyrs, merch Dodo Nen a Yncl Dei a cyfneither i mi. Mae’r Côr yn teithio i’r Swistr yn ystod yr haf gan ddefnyddio fy nelwedd ar y posteri hyrwyddo. Trefnwyd y daith gan gyfneither arall i ni’n dwy - Nerys Llwynmawr.

 

Dewch i de

Blodau, llysiau a llestri’r gegin - prysurdeb mam yn ei chegin. Mae Luned y ferch hefyd yn hoff iawn o goginio cacennau ac mae’r gegin acw yn debyg - mae wedi etifeddu hyn gan y ddwy nain!

 

Yr Aran o Tŷ Cerrig

Mi es a dad am dro yn y car o amgylch bro ei febyd i mi gael ysbrydoliaeth i greu gwaith newydd. Dyliwn i fod wedi recordio ei eirfa a’i hanesion ddiddorol - dyma’r lle bu’n dyrnu ŷd o gwpas y ffermydd, yn hel defaid a gwartheg, yn gwerthu ci i hwn a’r llall ac yn gweithio’n ofnadwy o galed.

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon