Archif

Perthyn i bobol, perthyn i dir

Mae’r artist Catrin Williams wedi defnyddio patrymau marcio clustiau defaid yn sail i’w gwaith diweddara’. Iddi hi, maen nhw’n symbol o berthyn. Stori - Karen Owen.

“Ti’n siwr o fod yn gwybod pwy ydi o, Catrin… mae o’n perthyn iti, o bell…”

Fel yna y bydd y sgwrs yn gwyro’n aml pan fydd Catrin Williams yn mynd adre’. Ei thad yn dechrau son am pwy-a’r-pwy o’r fan-a’r-fan yn gwneud y peth-a’r-peth, a’r stori gymhleth yn siwr o gylchu i’w diwedd gyda chysylltiad teuluol. Ei mam wedyn yn ychwanegu’r ffeithiau angenrheidiol: mab hwn-a’r-hwn, brawd hon-a’r-hon, nes bod llond y cof o berthnasau. Llond cof, a llond ardal.

“Mae teimlo eich bod chi’n perthyn i ryw le arbennig yn bwysig iawn, yn enwedig yn y wlad ac yn yr oes yr ydan ni’n byw ynddi,” meddai Catrin Williams. “Pan mae yna gymaint o ddylanwadau allanol yn bygwth eich caethiwo chi’n emosiynol, mae hi’n hollbwysig bod gan bawb eu syniad o identiti.”

Efallai mai dyna pam fod gan Catrin Williams bellach ddau ‘adre’. Mae ganddi hi’r cartre’ clyd y mae hi’n ei rannu gyda’i gŵr Bedwyr a’u dau o blant, Elis (4 oed) a Luned (1 oed) ym Mhwilheli. Ac wedyn mae ganddi gartre’ arall - y tyddyn bychan, yng Nghefnddwysam ger Y Bala, ble cafodd hi a’i dau frawd a’i chwaer eu magu.

“Dw i’n mynd adre’ i Bwllheli, ac adre’ i’r Samau,” meddai, “a does dim ots faint o bobol sydd yn fy nghywiro i, wnaiff hynny ddim newid. Mi fuaswn i wrth fy modd yn mynd yn ol i fyw i ardal Y Bala - i fan’no dw i’n perthyn - ond dydi hynny ddim yn ymarferol efo gwaith fy ngwr a finnau ar hyn o bryd.”

Efallai nad oes angen marcio pobol er mwyn gallu dweud o ble y mae’n nhw’n dod, ond nid felly y mae hi gyda defaid mynydd. Mae ffermwyr a thyddynwyr yn torri siapiau yng nghlustiau defaid ers canrifoedd - pob un gyda’i batrwm ei hun - er mwyn gallu adnabod defaid sydd yn pori’n rhydd ar dir heb ei ffensio.

Patrymau felly y mae Catrin Williams wedi eu defnyddio ar gyfer llunio casgliad o waith celf newydd fydd yn cael ei arddangos yn Oriel Gweithdy Celf Abertawe o ddydd Sadwrn ymlaen.

“Ges i fenthyg copi o lyfr Nod Clust gan dad,” meddai, “llyfr sydd yn nodi patrymau gwahanol ffermydd yn yr ardal, ac o hynny y mae’r gwaith i gyd wedi dechrau. Dw i wedi ei gyfuno fo hefo ychydig o’n hanes i a hanes ardal Cefnddwysarn, a dw i’n gobeithio y bydd o’n cyfleu fy syniad i o berthyn i gynulleidfa ehangach.

“Wedi’r cwbl, mae’r holl syniad o fynd ag arddangosfa am gefn gwlad fynyddig i oriel ar lan y mor yn ddiddorol a dweud y lleia’. Nid yn ami iawn y mae’r ddau fyd yn cyfarfod, ond mae’n braf meddwl y byddan nhw’n gallu cyffwrdd a’i gilydd trwy gyfrwng celf.”

Cefn gwlad hamddenol yw cefn gwlad Catrin Williams. Lluniau neis-neis o gymdeithas capel. Lluniau merched mewn dillad dydd Sul yn cael picnic ar fynydd Y Foel. Lluniau cymdeithas sydd yn chwalu yn ara’ deg wrth i ffermydd bychain uno’n stadau mwy, ac wrth i’r patrymau unigryw orfod toddi i’w gilydd.

“Dw i’n gwybod nad ydi bywyd ffermwr ddim yn fêl i gyd,” meddai, wrth gyfadde’ mai ei chas beth hi ar y fferm adre’ oedd casglu defaid o’r mynydd. “Mae yna lot fawr o diodi, ond wrth i’r bywyd hwnnw gael ei erydu mae yna beryg i ni golli lot mwy o bethau hefyd.

“Proses digon hyll ydi nodi dust dafad - mae honno’n strancio, yn gweiddi mewn poen ac mae yna waed yn llifo - ond ochr yn ochr a hynny mae yna eirfa gyfoethog sydd yn rhan o hen ffordd o fyw.

“Y siapiau clustiau ydi’r tirlun yn llawer o fy lluniau i,” meddai Catrin Williams. “Y gwahanol batrwm sydd gan bob ffermwr sydd yn adeiladu cymdeithas ac yn gwneud perthyn yn rhywbeth mwy penodol na pherthyn i ‘ryw ardal’ yn unig. Mae nodau clustiau yn ei gwneud hi’n bosib i ni olrhain dafad yn ôl i’w pherchernnog ar dyddyn o fewn ardal. Mae o’n mynd un cam yn ddyfnach.

“Dyna pam fy mod i’n tristau nad oes yna neb o fy nghenhedlaeth i yn dal i fod adre” yn tyddyna - mae fy mrodyr, fy chwaer a finnau wedi symud i ffwrdd oherwydd i ni gael addysg. Ond fyddai yna ddim digon
o waith, beth bynnag, i fy nhad ac un arall. Efallai mai Elis, fy mab i, fydd y linc nesa’ yn y gadwyn.

“Yn y cyfamser, dw i’n falch fy mod i’n gallu defnyddio fy ngwreiddiau, defnyddio fy hanes a fy nhreftadaeth i ennill arian - rhywbeth nad oedd hi’n bosib i fy nheulu ei wneud - oherwydd dydi tyddyna, na pherthyn, ddim yn talu.”

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon