Archif

John Cale a Fi

Clywed cerddor Cymreig mewn capel yn Amsterdam, a hithau’n bwrw glaw y tu allan - dyna wnaeth ysgogi lluniau diweddara’ artist o Gaernarfon. Erbyn hyn, mae Catrin Williams yn gobeithio dychwelyd i’r capeli. Stori - Manon Wynne Davies.

Mewn warws yn ardal y dociau yng Nghaerdydd, roedd hi i fod yn noson gynta’ arddangosfa. Ond doedd yna ddim i’w weld ond darnau o bapur newydd.

Dim byd arall, tan i’r artist ddechrau canu emyn Dwy Law yn Erfyn a chwarae tâp o lais hanner-Americanaidd, hanner-Cymreig yn son am ei fywyd yn Greenwich Village, Efrog Newydd ... yna, fe rwygodd un o’r darnau papur newydd, gan ddatgelu cefnien mawr lliwgaryn hongian o drawstiau’r warws. Ac fe ddechreuodd ganu caneuon y ‘llais’, gan ddadorchuddio fesul un y lluniau llachar a gafodd eu hysbrydoli ganddyn nhw.

Fel yna y dangosodd yr ariunydd Catrin Williams ei set diweddara’ o luniau mewn sioe breifat i barchusion yng Nghaerdydd. Y lluniau oedd ymateb Catrin Williams i gerddoriaetn y Cymro Cymraeg o’r Garnant, John Cale - nai cyfansoddwr ton Dwy Law yn Erfyn a chyn-aelod o un o’r grwpiau roc mwya’ dylanwadol erioed, y Velvet Underground.

Er eu bod i’w gweld bellach yn Theatr Gwynedd, Bangor, mae’r ymateb gwreiddiol yn aros yn ei cho’. “Do’n i ddim wedi disgwyl yr ymateb: roedd pawb yn gobsmacked. Pobol barchus y cynghorau sir a’r busnesau oedd yno fwya’ a dwi’n meddwl ei fod o’n dipyn o agoriad llygad iddyn nhw.

“Roedd rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar un llun yn lie crwydro o gwmpas yn hanner-edrych ar y cyfan, yn yfed gwin ac yn siarad: ar y cychwyn, wnes eu cadw nhw’n eistedd yn hollol ddistaw am tuag ugain munud tra’ro’n i’n canu. Ond pan gychwynnodd cerddoriaeth John Cale ar y tap, roedd o’n reit swnllyd, ac mi wnaeth pobol ymlacio a dechrau siarad am y cyfan. Dyna oeddwn i eisio.”

Nid dyma’r tro cynta’ i Catrin Williams weithio gyda cherddoriaeth. Fe ddyluniodd hi glawr record yr Anhrefn, Rhedeg i Baris, a mynd ar daith gyda nhw gan baentio mewn gigs. Ond hyd nes iddi glywed cerddoriaeth John Cale, doedd cerddoriaeth ddim wedi ysbrydoli ei lluniau hi.

Ar wyliau yn Amsterdam Pasg diwetha’ yr oedd Catrin Williams pan glywodd hi bod y cerddor o’r Garnant yn chwarae yno ymhen rhai dyddiau. Roedd hi’n gyfarwydd gyda dau neu dri o’i recordiau ac yn awyddus i glywed mwy ond, gyda’r ddinas yn orlawn dros y Pasg, doedd hi ddim yn hawdd newid trefniadau a ffeindio rhywie i aros.

“Wnaethon ni aros mewn sgwat, bron iawn, er mwyn mynd i’w weld o. Roedd o’n chwarae mewn capel ar nos Sul ac ro’n i’n dyfaru nad oedd gynnon ni fflag Draig Goch, achos oedd o mor anhygoel o Gymreig - nid yn unig ei lais o, ond y ffordd roedd o’n edrych. Ac roedd o’n canu caneuon fel A Child’s Christmas in Wales ac On the Way to Swansea ac roedd hi’n bwrw glaw tu allan...”

Er mai fel aelod o’r Velvet Underground y bydd John Cale fwya’ cyfarwydd, fe gafodd ei hyfforddi fel cerddor clasurol a chyngerdd un dyn a’i biano oedd cyngerdd Fragments of a Rainy Season yn Amsterdam.

“Oeddan ni ar falconi’r capel yma, bron iawn yn gallu gweld ei gordiau o: maen nhw mor syml ond eto maen nhw’n anhygoel o bwerus - bron eu bod nhw’n emynaidd - ac mae ganddo fo rhyw rhythm arbennig.

“Wnes i wneud ambell drawing yn Amsterdam, ond doedden nhw’n golygu dim i fi ar ol i fi glywed John Cale yn chwarae.”

Roedd gan Catrin Williams awydd gwneud gwaith mwy haniaethol ers tro; cerddoriaeth John Cale oedd yr ysgogiad y bu hi’n disgwyl amdano.

“Wedi gwrando a gwrando ar y gerddoriaeth, fe wnes i gau fy nun yn y stiwdio ajyst llenwi papurau efo siapiau siarcol: mae’n rhaid cychwyn efd drawing, hyd yn oed efo rhywbeth haniaethol fel hyn.”

Wedi gwneud sgetsus du a gwyn, fe ddechreuodd hi ychwanegu lliwiau ac roedd awyrgylch ei stiwdio ym Mharc Glynllifon yn yr ha’ yn ddylanwad ami, Mae’r paentiadauolew a phastel yn llawn Iliwiau cry’ - coch llachar a melyn a piws a glas. Ac mae yna bine mewn llun sy’n ymwneud a’r artist ‘pop’, Andy Warhol.

Style it takes yw enw’r llun hwnnw ac mae wedi’i seilio ar gân o’r un enw ar record deyrnged Lou Reed a John Cale i Andy Warhol. Am gyfnod, fe fu’r tri yn gysylltiedig gyda’r Velvet Underground.

“Cân ydi hon felly am deimladau John Cale wedi i Andy Warhol farw. Dydi hi ddim yn deyrnged dawel a dydi’r llun ddim yn dawel chwaith. Ond wedi dweud hynny, mae’r llun wedi mynd gam ymhellach: erbyn hyn, dwi’m yn meddwl am Andy Warhol o gwbwl - dwi jyst yn ymateb i’r gerddoriaeth.”

Ar hyn o bryd, mae’r lluniau yn cael eu harddangos ym mar Theatr Gwynedd ond gobaith Catrin Williams yw mynd a nhw ar daith i gapeli Cymru.

“Un o’r rhesymau pam fod y sioe gynta’ wedi gweithio, dwi’n meddwl, oedd awyrgylch y lie - hen adeilad fel warws ydi o, nid yn annhebyg i’m stiwdio i. Ro’n i wedi meddwl gwneud agoriad fa’ma yn Theatr Gwynedd a gwneud sioe debyg, ond fasa to byth wedi gweithio fa’ma yng ngnanol yr ashtrays a’r byrddau a’r cadeiriau.

“Dwi’n chwilio am adeiladau efo awyrgylch arbennig, a’r rhai cynta’ ddaeth i ‘mhen i oedd capeli - oherwydd natur y gerddoriaeth, sy’n reit emynaidd a Chymreig, ac hefyd oherwydd eu hawyrgylch nhw a’r ffaith nad oes neb lot yn eu defnyddio nhw.”

Ar ddiwrnod glawog ym Mharc Glynllifon, ger Caernarfon, mae Catrin Williams yn ei stiwdio yn gweithio ar gefnien arall wedi’i seilio ar The Falkland Suite gan John Cale, sy’n gosod rhai o gerddi Dylan Thomas i gyfeiliant cerddorfa a chor.

“I fi, yr hyn sy’n ddiddorol ydi bod John Cale wedi mynd gam ymhellach - mae o’n cywasgu cerddoriaeth roc i fewn i gerddoriaeth fodern. Mae o’n defnyddio barddoniaeth Dylan Thomas, cerddorfa o Rwsia a chor Eglwys Gadeiriol Llandaf, ond nid rhywbeth neis-neis y mae o’n ei greu, ond rhywbeth hollol newydd. Dyna ydw i wedi trio’i wneud hefyd.”

Fe fyddai Catrin Williams yn hoffi gweld ymateb John Cale i’w lluniau hi: ac yntau’n dychwelyd i Gymru ym mis Mawrth, mae hynny’n bosibilrwydd.

“Dydw i ddim wedi blino gwrando ar y gerddoriaeth; os rhywbeth, mae’n tyfu arna’ i mwy a mwy bob dydd. Mae ar artist angen rwbath fel’na er mwyn newid cyfeiriad, ac mae o wedi bod yn gyfnod da.”

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon