Archif

Datganiad a chyflwyniad

Arddangosfa Merched Ffermwyr 2000 - gan Jill Piercy

Y mae’r beintwraig a’r berfformwraig hon yn cael ei hysbrydoliaeth a’i rhychwant eang o bynciau o’r gymuned glos, Gymraeg ei hiaith, lle y magwyd hi ac y mae hefyd yn medru mynegi ei hunaniaeth drwy gyfrwng cerdd a chan. O fod yn ymwybodol iawn bod llawer o arferion ei phlentyndod yn prysur ddiflannu a chael eu dibrisio, y mae hi’n mynnu dathlu rhai o’r gweithgareddau diwylliannol hynny - cael te a thrip Ysgol Sul er enghraifft. Drwy ei gwaith y mae’n ceisio creu geirfa o ddelweddau, arwyddion a symbolau allan o’i phrofiadau hi ei hun er mwyn ymgorffori cof cenedl. Er mwyn cyflawni hyn y mae hi’n ami yn sianelu ei hynni creadigol drwy gydweithio ag artistiaid, perfformwyr a cherddorion eraill ac yn wir â chymunedau cyfan ac y mae wedi cydweithio gyda chynulliadau o bobl gyda chymelliadau gwleidyddol megis Beca.

Mae hi wedi cymryd diddordeb arbennig mewn nodau dust defaid a chreu corff o waith yn amrywio o brintiau bychain bach i ganfasau enfawr sydd yn ein hatgoffa o dariannau a barcutau. Pan mae defaid yn crwydro yn yr hafod ar fryniau gogledd Cymru, y dull a ddefnyddir i ddarganfod eu perchnogaeth yw drwy archwilio eu nod dust. Y mae’r allwedd i’r toriadau hyn ar gof a chadw mewn llyfr sydd yn esbonio pob torriad a hollt a hic, clust dde a chwith, gyda darluniau o bob un. Tasg hawdd felly yw didoli’r rhai a grwydrodd o’u cynefin a’u dychwelyd i’w perchnogion. Syniad cyfareddol yw’r ffaith ei bod yn bosibl i greadur newid ei ffurf gysefin a daw i gof chwedl Taliesin oedd yn medru trawsnewid ei h’un pan fynnai. Y mae’r ffaith mai yng Nghymru y mae hyn yn digwydd yn atsain o arferion eraill, megis cysylltu pobl gyda’u hafod a’u hendref a’u galw wrth enwau eu cartrefi. Y mae gwybod pwy ydych ac i ble y mae un yn perthyn yn elfen hanfodol ym mywyd pobl sydd yn byw y drws nesaf i wlad bwerus.

Dengys gwaith Catrin noswyl ffordd o fyw. Diflannodd nifer o’r pethau a welir yn ei gwaith, gwerthwyd y ffermydd, mudodd y teuluoedd, daeth ffordd o fyw i ben oherwydd gormes economaidd. Y mae cartref Catrin ei nun, yng Nghefnddwysarn ger y Bala, wedi’i werthu a hen linach amaethyddol wedi dod i ben. Pa ryfedd iddi roddi’r enw ‘Pethau Brau’ ar ei harddangosfa yn Eisteddfod 1997. Mae hefyd yn gweddu i’r hyn a welir yma.

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon