Archif

Cynefin – Oriel Ynys Môn, Llangefni - Arddangosfa unigol

Barn - Gorffennaf / Awst 2016 - gan Rhiannon Parry



 

Lliwiau ddoe a heddiw – Gwaith Catrin Williams

Mae arddangosfa ddiweddaraf yr artist hynod gynhyrchiol yma yn deyrnged i’w rhieni. Mae hi hefyd yn ddathliad o leoedd sy’n bwysig iddi – rhai ym Mhenllyn ei magwraeth, eraill yn Llŷn, ei chynefin mabwysiedig, ac eraill eto’n fannau yr ymwelodd â nhw ar ei theithiau, yng Nghymru a thu hwnt.

 

Daloni Metcalfe a fu’n agor arddangosfa ddiweddaraf Catrin Williams. Pan gerddodd Daloni i mewn i’r ystafell arddangos eang yn Oriel Môn, Llangefni, gellid gweld ei bod yn rhyfeddu. Fel pob un arall o’r dorf a ddaeth i’r agoriad, roedd yn synnu o weld swmp ac amrywiaeth y gwaith, sydd i gyd yn perthyn i’r cyfnod ers 1989.

‘Mi ges i gynnig arddangos yma o’r blaen,’ medd Catrin, wrth inni gael cyfle am sgwrs yn dilyn prysurdeb yr agoriad. ‘Ond doeddwn i ddim yn teimlo bod gen i ddigon o waith. Yna’r llynedd a ’leni, roedd yna rywbeth fel petai’n fy ngyrru i greu. Hwyrach fod a wnelo hynny rywbeth â cholli fy rhieni, a ’mod i rywsut, rywfodd am ddatgan fy niolchgarwch iddyn nhw am y fagwraeth arbennig a gefais i.’

 

“Ym Mhwllheli, mae plant yn gwerthu mecryll ar y stryd, a Bedwyr fy ngŵr yn hen law ar drin y pysgod.”

 

Magwyd Catrin ar fferm Llwyniolyn yng Nghefnddwysarn ger y Bala, yn un o bedwar o blant. ‘Fedrech chi ddim dweud bod ein rhieni ni’n ein gwthio. Ond mi wn i eu bod nhw am inni gael y gorau o bob dim sydd o werth. Chydig o foethau gawsom ni. Ond mae f’atgofion o ’mhlentyndod yn rhai hapus iawn – mynd i lawr at yr afon hefo basgedaid o fwyd ar noson cynhaea’ gwair i drochi’n traed … a blas y bwyd hwnnw …’

Mae sawl un o’r paentiadau yn adlais o atgof tebyg – Amser Te, Pysgod i Swper, Macrell i Swper. ‘Er nad oedden ni ddim yn cael mecryll yng Nghefnddwysarn! Ond dwi’n byw ers blynyddoedd bellach ym Mhwllheli. Yno, mae plant yn gwerthu mecryll ar y stryd, a Bedwyr fy ngŵr yn hen law ar drin y pysgod.’ A hithau, Catrin, yn feistr ar baentio’r pysgod yn ei dull lliwgar, dihafal ei hun, fel bod y ddelwedd o’r pysgodyn yn ymdoddi i’r patrwm sydd ar y plât.

 

“Mae’r ymdrech o drio cyfleu lliwiau’r blodau wedi dwyn i gof fwyfwy fy mam, a oedd yn gwybod enwau Lladin yr holl blanhigion, a’r pleser a gâi fy nhad wrth dyfu blodau a phlanhigion eraill.”

 

Sbloet gyffelyb o liwiau a geir mewn llun mwy o faint, sef Diwrnod Siytni. ‘Byddai Mam yn arfer gwneud siytni. Rwyf innau wrth fy modd hefo’r holl gynhwysion, a’r ffordd y mae’r gwahanol flasau yn cyfuno i wneud y danteithfwyd.’ Mae’r paentiad hwn o’r bwrdd llawn cybolfa yn denu’r llygad ac yn hawlio sylw. Ceir elfen debyg mewn lluniau diweddar eraill megis Blodau’r Haf a Blodau Crynierth (Crynierth Bach yw enw’r fferm deuluol y symudodd rhieni Catrin iddi o Lwyniolyn).

‘Pan oedd fy nhad yn fyw, roedd yna drefn ar yr ardd yng Nghrynierth Bach. Bellach mae’r blodau wedi hadu’u hunain, a’r border yn un o liwiau. Dwi wedi trio cyfleu’r lliwiau hynny yn y paentiadau yma. Mae’r holl ymdrech wedi dwyn i gof fwyfwy fy mam, a oedd yn gwybod enwau Lladin yr holl blanhigion, a’r pleser a gâi fy nhad wrth dyfu blodau a phlanhigion eraill. Ac wedyn, ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Byddai’n darllen Sol-ffa. Mae cerddoriaeth yn fy ngwaed i. Yn ein gwaed ni i gyd o ran hynny. Dwi mor falch bod gan fy mhlant, Elis a Luned, yr un diddordeb. Alla i ddim deud wrthoch chi pa mor hapus ydw i o fod yn aelod o Gôr Eifionydd dan arweiniad Pat Jones. Fy hoffter o gerddoriaeth a sbardunodd luniau fel carthen Sol-ffa a Sŵn yr Acordion a’r lluniau iPad haniaethol diweddaraf, Bysedd Lliw. Mi gafodd y rhain eu creu’n ddigymell tra o’n i’n gwrando ar gerddoriaeth.’

Teithiau’r artist sydd wedi ysgogi lluniau eraill eto, megis Te ym Mwdapest, Loch-nam-madadh a Dreser Uist. Dreser gyffredin, lwydaidd, llawn trugareddau teulu yw’r ddreser a bortreadir, ond llwyddodd Catrin i’w bywiogi a gwneud y cyffredin yn ddiddorol drwy’i thechneg arbennig o wnïo tameidiau bychain o ddefnyddiau cotwm ynghlwm wrthi. ‘Dwi wrth fy modd hefo gwaith yr arlunydd tecstiliau Edrica Huws,’ meddai. Wrth inni sefyll wrth y drws yn Oriel Môn, tynnais sylw Catrin at Felin Llanddyfnan, a oedd i’w gweld yn y pellter, sef un o’r lleoedd yr hoffai Edrica ymweld â nhw pan oedd hi’n byw ym mhentref y Talwrn ger Llangefni.

Roedd nifer o edmygwyr a dilynwyr Catrin yn bresennol yn yr agoriad – cyd-artistiaid ac athrawon, yn ogystal â phobl a phlant a ysbrydolwyd mewn gweithdai y bu’n eu cynnal ym mhob rhan o Gymru. Yn sgil gweithdai o’r fath y cafodd gyfle i greu’r paentiadau Llan Ffestiniog o Gwm Cynfal, Ystradgynlais, Borth-y-gest, Llanuwchllyn a Llanbedr-goch. ‘Mor braf ydi dysgu am hanes a thraddodiadau gwahanol leoedd, a cheisio cael pobol a phlant yr ardaloedd hynny i werthfawrogi’u treftadaeth ac i fynegi hynny mewn celfyddyd.’ ar gynnyrch rhai o’r gweithdai, hawdd gweld nad ar chwarae bach y bydd y plant o dan ei gofal yn anghofio’r profiad o greu.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys dau baentiad o Bortmeirion. ‘Pan oedd fy rhieni’n fyw, yno y bydden ni’n mynd i ddathlu unrhyw amgylchiad o bwys. Mae cymaint i’w weld yno, a chymaint o liw!’ Rhyfedd felly fod un o’r lluniau o Bortmeirion yn gwbl ddi-liw. Parodd hyn i Les Burridge, y fframiwr lluniau, ddatgan, ‘Rhaid i mi ddeud bod yn well o lawer gen i luniau lliwgar Catrin’. Cytunais innau, gan edrych ar draws yr oriel at y gwaith Penllyn a fyddai wedi bod wrth fodd Peter Prendergast, cyn-diwtor yr artist, oherwydd dull naturiol, angerddol yr artist o baentio ei bro enedigol.

Cyn gadael yr oriel rhaid oedd dychwelyd i graffu ar un llun – Carthen Mam. Nid carthen gyffredin mo hon. Yn y llun crynhoir holl atgofion Catrin am ei mam – ei brwdfrydedd dros ei phlant, a’i holl ymwneud â bywyd y cartref yn Llwyniolyn. Ac wrth gerdded allan o’r oriel, dyma gael cip arall ar flodau lliwgar gardd ei chynefin, sef y cynefin a roes fod i’r arddangosfa ardderchog hon.

 

Mae arddangosfa Catrin Williams, Cynefin, i’w gweld yn Oriel Môn, Llangefni, hyd 7 Awst.

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon