Archif

Cynhadledd CYDAG

19 Hydref 2018 – Cyflwyniad gan Catrin Williams

Cliciwch i weld y lluniau sy'n cyd fynd â'r sgwrs

 

Celfyddyd Gymreig ar gyfer ysgolion

Dwi'n dod o ardal Cefnddwysarn, Sarnau byd y pethe.

Wrth fynychu cwrs sylfaen ym Mangor yn 1985 mi wnaeth yr artist a'r arlunydd Peter Prendegast, agor fy llygaid i ddatblygu fy ngwaith i arbrofi ac i ddarlunio o fywyd wrth ddarlunio fy nghynefin mewn llyfr braslunio.

Ers bod yn y Coleg yng Ngaerdydd rwyf wedi mwynhau arbrofi wrth greu peintiadau mawr naif am fy mhlentyndod ar fferm fynydd yn ardal y Bala.

Wedi i mi ddod yn fam i Elis (sydd bellach yn 24) a Luned (sydd yn 21) dechreuais greu darluniau oedd yn ymwneud â'r cartref, a symudais i fyw at y môr ym Mhwllheli, sydd wedi bod yn rhan bwysig o'r delweddau a'r golau a'r lliw yn fy ngwaith.

Yn wir mae llawer o fy ngwaith celf yn cael ei greu mewn stiwdio yn nhop y tŷ.

Yn aml dwi'n defnyddio themau sydd yn bwysig i mi: y profiad o fyw yng Nghymru fel merch ac yn fam; mae'r ddresel, y dillad, wynebau ac arferion y teulu i gyd yn aml wedi gweu drwy'i gilydd ac yn mynnu sylw yn fy mywyd ac yn fy ngwaith.

Dros amser rwyf wedi datblygu themau cartrefol a theuluol i gynnwys elfennau o'r symbolau twristaidd o Gymru fel y llieiniau golchi llestri ystrydebol. Mae atsain fy nhirluniau cynnar o fynyddoedd y Berwyn ger Bala, yn amlwg yn dod yn ôl i ddarnau mwy diweddar o arfordir a thraethau penrhyn Llŷn.

Rwyf bob amser yn arbrofi gyda thechnegau newydd. Rwyf wedi defnyddio'r techneg monoprint o argraffu fy nelweddau - dwi'n rhoi haen o inc du ar ddarn mawr o wydr neu perspex, yna gosod papur neu ddefnydd yn ysgafn drosto a darlunio gyda phensil i greu haen cyntaf y gwaith. Byddaf wedyn yn peintio gydag incs lliwgar ar ochr y dyluniad inc du pan mae wedi sychu. Y cam nesa ydi torri defnyddiau lliwgar a'u gwnio, ond rwyf yn gwneud hyn bron fel mod i'n peintio, byddaf yn defnyddio pasteli lliwgar i fanylu cyn fframio'r gwaith mewn ffrâm syml gwyn i'w gwerthu yn Oriel Martin Tinney.

Mae'r artist Edrica Huws wedi bod yn ddylanwad mawr arnaf wrth wneud gweithiau tebyg - er ei bod wedi ei hyfforddi fel arlunydd (drwy ddefnyddio paent olew a chynfas) bu'n rhaid iddi newid cyfrwng wedi iddi ddod yn fam, ac angen magu teulu o bedwar, ac mi ddechreuodd greu cyfres o weithiau clytwaith ar ffwrdd y gegin. Ar amser coginio a bwydo'r plant gallai rowlio'r defnyddiau i gyd at ei gilydd i glirio'r bwrdd gegin yn hawdd - hyn yn wahanol iawn i weithio hefo paent olew sy'n gallu bod yn drafferthus ac yn cymryd dyddiau i sychu. Mae'r gantores Gwenno Saunders o Gaerdydd wedi creu perfformiad cyfan o ganeuon wedi iddi gael ei hysbrydoli gan weithiau celf Edrica Huws,

Erbyn hyn mae gen i ychydig mwy o amser, a dwi wedi bod yn creu peintiadau anferth yn ddiweddar o dirweddau a gerddi lliwgar gan ddefnyddio paent ac incs. Rwyf wedi mentro dechrau peintio gyda phaent olew - tirluniau a bywyd llonydd - dydw i ddim wedi peintio gydag olew ers dyddiau coleg.

Rwyf bob amser yn dechrau braslunio o fywyd - astudiaethau manwl - yn fy llyfrau braslunio wrth ddefnyddio pensiliau, pennau ffelt, creionau, incs - y rhan fwyaf o'r amser mewn du a gwyn. Rwyf hefyd yn creu darluniau ar bapur A1 a A2. Wedyn mi fyddai'n datblygu'r darluniau ar gynfas / papur / panel arall gyda phaent a dyma pryd fyddai'n ddefnyddio mwy o ddychymyg a theimlad.

Wrth greu tirlun mi fyddaf yn mynd i'r lleoliad i greu un neu ddau o frasluniau manwl, anaml iawn fyddai'n gweithio o ffotograff. Wrth greu bywyd llonydd rwyf yn hoffi dechrau braslunio ac wedyn dechrau peintio, bron ar yr un amser.

Rwyf yn aml yn gweithio ar gyfresi o weithiau, fel arfer tua 3 i 4 o ddarnau eithaf tebyg ac mae'n cymryd tua wythnos i'w gorffen cyn iddynt fynd i gael eu fframio.

Dydw i ddim yn ymwybodol iawn o fy mhalet, ond mae tueddiad i mi ddechrau mewn du a gwyn wrth fraslunio er mwy canolbwyntio ar siapiau a chysgod gwrthrych, ac wedyn ychwanegu'r lliw wrth greu y gweithiau gorffenedig.

Wedi i mi golli fy mam roedd lliwiau'r gweithiau creadigol yn llwydaidd iawn, ond wedi i mi golli fy nhad roedd y palet yn cynnwys lot o goch a melyn. Yn ddiweddar mae'r gwaith newydd yn llawn glas, piws, leim a phinc!

Yn aml iawn wrth deithio ar fy ngwyliau rydw i'n tueddu i fynd i lefydd oherwydd yr orielau celf, mae Nice yn ne Ffrainc yn ffefryn oherwydd oriel Mattisse ac oriel Chagall.

Rwyf yn aelod o orielau'r Tate, ac mae hynny yn galluogi mi fynd i weld arddangosfeydd newydd yn Llundain, Lerpwl a Chernyw. Ond Cymru yw'r ysbrydoliaeth fawr.

 

Yr artist abstract gorau yng Nghymru.
SYR KYFFIN WILLIAMS - EBRILL 2003

 

Gwelir fod llawer iawn o’r paentio sydd i’w weld yng Ngymru yn dilyn yr un hen fformiwla - cymylau trymion, wynebau creigiog a garw, ambell fwthyn a ffermwr a’i gi. Mae fel awyr iach gweld artist sy’n creu ei hiaith bersonol ei hun. Dangosa’i llwyddiant wrth gyfuno’i gwaith pwytho gyda’r wynebau paentiedig fod Catrin yn talu gwrogaeth i draddodiad gwaith merched tra ar yr un pryd yn torri’n rhydd o’i hualau. Dathliad mewn ffrwydriad o liw ac egni brwdfrydig yw’r gweithiau hyn - maent yn adlewyrchu hunaniaeth a phersonoliaeth Catrin ei hun.
MARY LLOYD JONES - MAI 2007

 

 

Themau arbennig i'w wneud mewn ysgolion

Fy hoff arlunwyr i –

 

Tirluniau -

JAMES DICKSON INNES (1887 - 1914)

Wedi ei eni yn Llanelli a'i hyfforddi yn Ysgol Gelf Caerfyrddin ac Ysgol Slade, Llundain, roedd gyrfa James Dickson Innes yn drist o fyr. Cafodd ei ddylanwadu'n gryf gan y Fauvists a'r Mynegiadwyr, a bu'n peintio tirluniau mewn modd naturiol, lliwgar a gwreiddiol. Ar adegau mae ei waith yn ymddangos yn ddiniwed, bron mewn arddull plentyn - ac mae hyn yn awgrymu ansawdd haniaethol. I ddechrau, roedd yn peintio yn ne Cymru, ac aeth hefyd ar deithiau peintio i ogledd Cymru gyda'i ffrind agos, Augustus John. Gwnaeth nifer o deithiau peintio i dde Ffrainc ac ar ôl dychwelyd o un o'i deithiau bu farw o'r pla gwyn yn 26 mlwydd oed. Mae ei waith yn brin iawn.

 

JOHN PIPER (1903 - 1992)

John Piper yw un o ffigurau pwysicaf Celf Brydeinig yr 20fed ganrif, fe geir ei gysylltu'n benodol â'r mudiad neo-Rhamantus. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i gomisiynwyd i gofnodi difrod a achoswyd oherwydd ffrwydradau yn Llundain, Bryste a Coventry. Ym 1944, fe'i benodwyd yn artist swyddogol y rhyfel. Daeth yn gyfarwydd â thirweddau de Cymru am y tro cyntaf ym 1937 pan briododd Myfanwy Evans. Gyda'i wraig, sefydlodd 'Echel', sef adolygiad o waith peintio a cherflunio haniaethol cyfoes. Creodd collages yn y fan a'r lle o olygfeydd lan y môr ac adfeilion. Gellir gweld y dylanwad yma yn ei waith diweddarach. Ym 1949 symudodd y cwpl i fwthyn yn Eryri lle bu'n peintio golygfeydd o'r mynyddoedd, roedd rhain bob amser yn dywyll ac yn deor, heb ffurf ddynol. Roedd galw cynyddol am ei waith dylunio llwyfan ar gyfer opera a bale, ac o ganlyniad, fe adawodd Gymru am gyfnod, cyn dychwelyd i Sir Benfro yn y 1960au cynnar.

 

PETER PRENDERGAST RCA (1946 - 2007)

Roedd Peter Prendergast yn un o artistiaid tirlun mwyaf blaenllaw Prydain. Ysbrydolwyd gan dirwedd Eryri ble bu'n byw, ac mae ei beintiadau mynegiannol yn nodweddiadol am eu grym a'u hegni. Ganwyd Peter yn Abertridwr, de Cymru, ym 1946 ond bu'n byw yng ngogledd Cymru am rai blynyddoedd hyd nes ei farwolaeth yn 2007. Hyfforddwyd yn Ysgol Gelf Slade, Llundain o dan yr athro Frank Auerbach, ac yng Ngholeg Celf Caerdydd. Mae wedi’i arddangos yn eang ym Mhrydain a thramor ac mae ei waith i'w weld mewn sawl casgliad preifat a chyhoeddus.

 

Arlunwyr eraill -

Joseff Herman
Kyffin Williams
Gwilym Prichard
William Selwyn
Darren Hughes
Glyn Baines
Helen Baines
Elfyn Lewis

 

 

Portreadau -

CLAUDIA WILLIAMS RCA (g.1933)

Ganwyd Claudia Williams ym 1933, ac mae hi’n ffigwr adnabyddus ym myd celf Gymreig. Ar ôl bod yn y coleg celf yn Chelsea, symudodd i ogledd Cymru i briodi’r arlunydd Gwilym Prichard ym 1954, ac ers hynny mae hi wedi parhau i arddangos gyda llwyddiant cynyddol. Bu Claudia’n byw yn Ffrainc am bymtheg mlynedd, ac fe geir parch mawr i’w gwaith yno hefyd. Mae paentiadau a darluniau Claudia fel arfer yn adlewyrchu bywyd cartref, plant ac wyrion, teuluoedd yn dod ynghŷd a thripiau i’r traeth. Mae hi hefyd wedi cyffwrdd ar faterion mwy dadleuol, yn arbennig hanes boddi Tryweryn. Mae Claudia wedi arddangos yn helaeth dros yr hanner canrif ddiwethaf, ac fe gynrychiolir ei gwaith mewn sawl casgliad cyhoeddus a phreifat.

 

SHANI RHYS JAMES (g.1953)

Shani Rhys James yw un o arlunwyr Cymreig mwyaf cyffrous a llwyddiannus ei chenhedlaeth. Mae ei henw da yn parhau i dyfu, yng Nghymru a thu hwnt. Yn y blynyddoedd diwethaf mae ei gwaith wedi ymddangos mewn nifer o arddangosfeydd o fri ym Mhrydain a thrwy Ewrop, ac mae wedi derbyn cymeradwyaeth sylweddol yn y wasg genedlaethol. Disgrifia William Packer, sylwebwr celf y Financial Times, hi fel artist a phŵer rhyfeddol, y mae ei phaentiadau mor argyhoeddiadol ag unrhyw beth sydd yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain ar hyn o bryd. Mae wedi ennill nifer o wobrwyon, gan gynnwys Gwobr Jerwood (prif wobr arlunio ym Mhrydain) yn 2003 a'r fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol 1992. Derbyniodd Wobr 'Welsh Woman in Culture' yn 2003 ac fe gyflwynwyd MBE iddi yn 2006. Mae ganddi gorff eang o gasglwy - preifat a chyhoeddus - sy'n parhau i ehangu ym Mhrydain a thramor, gyda gwerthiant i gasgliadau pwysig yn yr Amerig, Gwlad Belg, Ffrainc, Yr Almaen, Seland Newydd, Awstralia a Hong Kong.

 

MEIRION GINSBERG (g.1985)

Dywed Meirion am ei waith: "Cefais fy ngeni yn 1985 a’m magu yng ngogledd Cymru a fy hyfforddi yng Ngholeg y Celfyddydau Caerdydd. Dwi wedi ceisio mynd ati i beintio mewn ffordd hollol wahanol i'r tirluniau traddodiadol sy'n nodweddiadol o Gelf Cymru. Mae fy ngwaith i yn fwy o hunangofiant, a dwi’n defnyddio ffrindiau a theulu ac weithiau rhyw gymysgedd Dada-aidd efo dipyn o hiwmor ynddi. Dwi wedi cael fy nylanwadu gan rychwant eang o beintwyr, o Willem de Kooning i Rembrandt, a dwi’n defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i farcio’r cynfas. Mae hyn yn golygu bod fy ngwaith yn troedio’r ffin rhwng y ffigurol a’r haniaethol. Yn blentyn, mi gefais fy ysbrydoli gan gartwnau a chomics i gymeryd darlunio o ddifri. Hefyd mi gefais fy magu mewn teulu o beintwyr a cherddorion.

 

Artistiaid eraill ar thema portreadau -

Joseff Herman
Kyffin Williams
Luned Rhys Parri
Eleri Jones

 

 

Môr luniau, neu thema'r môr -

JOHN KNAPP-FISHER RCA (1931 - 2015)

Ganwyd John Knapp-Fisher yn 1931. Yn dilyn astudiaethau mewn Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Maidstone yn 1949, gweithiodd fel cynllunydd arddangosfeydd a chynllunydd celf golygfeydd yn y byd theatr. Yn 1958 tra'n byw yn Llundain, dechreuodd ganolbwyntio ar beintio ac arddangos ei waith. Roedd ei gariad gydol oes o gychod a'r môr yn amlwg yn ei destun ac yn ei waith, fe adeiladodd nhw, hwyliodd nhw ac yn ddiweddarach bu'n byw ar fwrdd un am nifer o flynyddoed. Testun arall iddo oedd tirwedd Sir Benfro, ble bu'n byw a gweithio ers 1965 hyd at ei farwolaeth yn 2015. Yn sicr mae ei enw yn gyfystyr â pheintio tirlun Sir Benfro. Bu'n arddangos ei waith ledled Prydain a thramor, gan ddatblygu casgliad ffyddlon o ddilynwyr, a dod yn un o artistiaid mwyaf blaengar Cymru, mae ei waith i'w weld mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus a preifat.

 

Artistiaid eraill -

Kyffin Williams
William Selwyn
Claudia Williams
Iwan Gwyn Parri

 

 

Thema Gymreig -

GEOFF CHARLES (1909 - 2002)

Mae cyfraniad Geoff Charles i ffotograffiaeth Cymru yn unigryw. Bu'n gweithio fel ffoto-newyddiadurwr o'r 1930au hyd at y 1970au a daeth at y gwaith hwnnw gyda dawn naturiol a chydymdeimlad dwfn â'i destun. Cofnododd yn arbennig ddigwyddiadau a phersonoliaethau y Gymru Gymraeg. Erbyn heddiw mae archif Geoff Charles yn un o drysorau'r Llyfrgell Genedlaethol. Ganed Geoff Charles ym mhentref Brymbo yn 1909. Astudiodd ar gyfer Diploma mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Llundain lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1928. Efallai mai'r ddelwedd o'r bardd gwlad Carneddog a'i wraig yn cael eu gorfodi i adael eu fferm fynyddig ar farwolaeth eu mab yw ei waith mwyaf adnabyddus. Ni lwyddodd yr un ffotograff arall i gydio yn nychymyg Cymru fel hwnnw, cafodd le ochr yn ochr a Salem Curnow Vosper mewn nifer o gartrefi. Dros y cyfnod hwnnw fe groniclodd llawer mwy na digwyddiadau a phobl; ddarn wrth ddarn, ffotograff wrth ffotograff datguddir ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu: y gwas fferm yn y lloft stabl, y postmon ar gefn ei geffyl, y chwarelwr a'i gar gwyllt. Cofnodir hefyd ddyfodiad trydan i bentrefi diarffordd, brwydr yr iaith ac effaith mecaneiddio ar fyd amaeth. Mae'n debyg petai'n rhaid nodi un rhan o'i waith yn arbennig, yna ei ffotograffau o bobl a chymuned Capel Celyn fyddai'r rheiny. Wrth i wlad gyfan frwydro'n aflwyddiannus yn erbyn bwriadau Corfforaeth Lerpwl i foddi Cwm Tryweryn fe gofnododd Mr Charles bob agwedd ar fywyd y fro honno. Er nad oedd bywyd yno'n wahanol i'r rhelyw o gefn gwlad Cymraeg Cymru, golygodd y bygythiad fod pob agwedd ar y bywyd hwnnw wedi'i gofnodi'n gyda'r gofal pennaf. Ymddeolodd Geoff Charles yn 1975, ond parhaodd i gyfrannu erthyglau a ffotograffau i'r Cymro a'r Farmers Weekly fel newyddiadurwr llaw-rydd. Rhoddodd ei archif o 120,000 negydd i'r Llyfrgell Genedlaethol. Mae'r casgliad yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer awduron, darlledwyr, haneswyr, myfyrwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.

 

ERNEST ZOBOLE (1929 - 1999)

Ganwyd Ernest Zobole ym 1927 yng nghwm diwydiannol Ystrad Rhondda, yn fab i Eidalwyr a symudodd i Gymru o dde'r Eidal. Mae yn sefydledig fel un o artistiaid mwyaf pwysig yr 20fed ganrif yn niwylliant gweledol Cymru. Mae ei ddehongliad personol o’r Rhondda, ei fan geni a tharddiad ei awen, wedi darparu rhai o ddelweddau mwyaf bywiog celf Gymreig wedi'r Ail Ryfel Byd. Ei bwnc oedd ei amgylchedd agos, gan dorri’r tirwedd mewn i ffragmentau o’r mewnol a’r allanol, yn aml drwy ddrysau a ffenestri, ac yn aml yn chwarae gyda phersbectif. Ac yna ceir y ffigwr dynol - yn rhan amharhaol o'r olygfa, ac eto'n holl-bresennol. Yn wir, siaradodd yr artist am ei baentiadau yn ymddangos yn anghyflawn heb bresenoldeb dynol. Mae amser a chof yn elfennau pellach yn y stiw darluniadol gogoneddus. Cydnabuwyd Zobole fel "the Chagall of the Valleys". Y tu ôl i hyn oll y mae artist soffistigedig iawn, gan ganolbwyntio ar yr adeiladu a’r defnydd o liw yn ei waith, gyda’r Rhondda a’i phobl yn cynrychioli dynoldeb byd-eang i’r artist ac i’r gynulleidfa.

 

Artistiaid eraill -

Mary Lloyd Jones
Ogwyn Davies
David Nash
Clive Hicks-Jenkins
Cefyn Burgess
Ruth Jên

 

 

Prosiectau Catrin yn y casgliad lluniau -

Murlun Prosiect Bethesda - Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen Mehefin 2014
Prosiect Ysgwrn - Mehefin 2016
Prosiect Cymunedol Dathliadau Roald Dahl - Talysarn - Awst 2016
Prosiect Ysgolion Creadigol Deganwy - Bwyta'n iach - Ionawr 2017
Prosiect Ysgolion Creadigol Mynytho - Storiau'r Byd - Mawrth 2018
Prosiect Dathliadau Kyffin Williams - Ysgol Bodhyfryd, Ysgol Gymraeg Trallwng, Carno, Glantwymyn, Llanbrynmair a Dyffryn Banw
Prosiect Iwan Llewelyn-Jones - Debussy - Ysgolion Cynradd Porthaethwy, Llanfairpwll, Felinheli
Prosiect Macsen - Ysgol Gymraeg Pontardawe - Medi 2018
Prosiect Cadeiriau - Fi a Ysgol Llanstumdwy
Prosiect ar Catrin Williams - Ysgol Gynradd Bodhyfryd - Medi 2018

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon