Archif

Cambrian News

22 Ionawr 2009

 

Creu murlun lliwgar

Cafwyd dathliad o waith plant lleiaf Blaenau Ffestiniog fore Sadwrn diwethaf, 17 o Ionawr, yn llyfrgell y dref.

Daeth tua 130 o rieni a phlant i weld yr arddangosfa, ac fe welwyd enghreifftiau o waith pob plentyn a gymerodd ran, gyda gwaith collage, gwaith efo siarcol, a phasteli, incs a phaent.

Roedd y llyfrgell yn llawn lliw a bwrlwm wrth i rieni a’u plant ddathlu’r achlysur. Bu babanod a phlant lleol dan dair oed yn mwynhau cael gweithio gyda’r artist Catrin Williams, dros gyfnod o bythefnos yn oriel y llyfrgell ym mis Tachwedd 2008. Cafodd 92 o blant y cyfle i fod yn rhan, plant dosbarth meithrin Ysgol Maenofferen, yr Ysgol Feithrin, Caban Bach, Plant Grwpiau Chwarae a laith a grwp Sesiwn Stori Dechrau’n Deg.

Ariannwyd y cynllun celf gan grant Chwarae a Iaith, dan ofal Cyngor Gwynedd. Rhan o fenter Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol Cymru y Cynulliad oedd y cynllun, wedi’i drefnu gan Leisa Williams, Cydlynydd Chwarae a laith.

Uchafbwynt y cynllun oedd creu murlun lliwgar sydd wedi ei osod ar dalcen adeilad Alwena Jones, y Gyfreithwraig, yng nghanol y dref, mewn lle gwych i’r byd ar betws ei fwynhau.

Dadorchuddiwyd y plac gan Gadeirydd y Cyngor Tref, Margreta Young Jones. Cafwyd sesiwn wych o adloniant gan Samba Stiniog, i gloi y dathliadau.

Yn y llun: Y plant a’u rhieni gyda Chadeirydd Cyngor Tref Festiniog, Margreta Young Jones, ar y chwith, a gwaith y plant yn y cefndir, yn y Llyfrgell ym Mlaenau Ffestiniog.

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon